Nam Golwg
Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?
Plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu hasesu gan Adrannau Offthalmoleg mewn ysbytai ac wedi derbyn diagnosis o golled golwg.
Mae’r Gwasanaeth yn cefnogi disgyblion rhwng 0-19 oed (tra mewn addysg o fewn ysgol). Rydym yn cefnogi mewn:
- Cartrefi
- Lleoliadau blynyddoedd cynnar
- Ysgolion cynradd
- Ysgolion Uwchradd
- Ysgolion Arbennig
Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
Mae’r gwasanaeth Nam Golwg yn gweithio gyda rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i wneud yn siwr bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn:
- Cael cyfle cyfartal
- Derbyn yr un addysg yn union â’u ffrindiau mewn ysgolion a chymunedau lleol
- Datblygu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnyn nhw
- Cyrraedd ei llawn botensial a datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol a hyderus
- Darparu gwasanaeth wedi ei deilwra i blant a phobl ifanc y ddwy Sir drwy ddilyn safonau ansawdd cenedlaethol NatSIP (National Sensory Impairment Partnership)
- Gwneud yn siwr fod eraill yn deall beth ydi cynhwysiad addysgol a chymdeithasol a lles disgyblion Nam Golwg
- Gweithio hefo’r rhieni ac ysgolion i wneud yn siŵr eu bod yn deall trefniadau cyfeirio at asiantaethau a gwasanaethau perthnasol.
Mae’r gwasanaeth Nam Golwg yn gweithio gyda rhieni, mudiadau ac ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn i sicrhau fod plant a phobl ifanc gyda Nam ar y Golwg yn cael cyfle i wneud popeth sydd ar y Cwricwlwm er mwyn lleihau effaith y Nam Golwg ar unrhyw gynnydd academaidd ac ar draws pob agwedd o fywyd y disgyblion.
Er mwyn gwneud hyn rydym fel gwasanaeth yn gosod yr amcanion canlynol:
- Gwneud yn siwr bod staff allweddol o fewn ysgolion/ mudiadau addysg gynnar gyda’r sgiliau a’r adnoddau priodol wrth weithio gyda disgybl Nam Golwg
- Cynnig gwasanaeth sydd yn helpu disgyblion Nam Golwg mewn cartrefi, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.
- Cynnig amrywiaeth o gymorth addas i ateb anghenion unigol a gofynion y ‘National Sensory Impairment Partnership’ (NatSIP)
- Cyflwyno, dysgu’n uniongyrchol a monitro'r Cwricwlwm Arbenigol (sgiliau gwrando, sgiliau annibyniaeth, Braille, TGCh a datblygiad emosiynol a chymdeithasol) ymysg disgyblion Nam Golwg a sicrhau datblygiad cadarn o’r sgiliau sylfaenol ac angenrheidiol
- Sicrhau fod rhieni yn rhan allweddol o unrhyw gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig
- Sicrhau fod rhieni yn derbyn hyfforddiant perthnasol
- Gweithio gydag asiantaethau allanol (iechyd/ swyddogion symudedd/ swyddogion RNIB/ gweithwyr cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol) i sicrhau ymateb ar lefel gwahanol i gefnogi’r disgyblion
- Datblygu a chryfhau sgiliau arbenigol y Tîm Nam Golwg er mwyn cynnal y lefelau arbenigedd sydd ei angen i gefnogi anghenion dwys a chymhleth y disgyblion.
- Sicrhau fod gwybodaeth perthnasol feddygol am Nam Golwg y plentyn yn cael ei rannu ( gyda chaniatâd y rhieni)
- Bydd y Meini prawf yn cael eu hystyried, yn unol â Meini Prawf mynediad y Gwasanaeth, gan y fforwm gwasanaeth a fforwm ardal ADYaCh ( Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad)
- Mewn rhai achosion bydd y Fforwm yn cyfeirio’r Panel Traws Siriol i ystyried yr achos. Mae effeithiolrwydd y strategaethau arbenigol yn cael eu mesur ac adroddir yn ôl i’r fforwm ar gynnydd yr unigolion. Lle nad oes tystiolaeth o gynnydd mae’r gefnogaeth yn cael ei adolygu
- Mae’r gefnogaeth arbenigol yn dilyn camau clir.
Symudedd a Sefydlu
Ar gyfer unigolion penodol bydd y Gwasanaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn yn comisiynu mewnbwn Swyddog Symudedd a Sefydlu (Habilitation Specialist) cymwysedig. Mae'r pamffled yn egluro:
- Beth yw Symudedd a Sefydlu (Habilitation)?
- Symudedd, Cyfeiriadedd a Sgiliau Byw yn Annibynnol
- Pam Symudedd a Sefydlu?
- Y Swyddog Symudedd a Sefydlu Cymwys
- Trosglwyddiadau
Gweler Adran 'Adnoddau' isod i lawrlwytho'r pamffled gwybodaeth Symudedd a Sefydlu.
Pwy ydi’r tîm?
Athrawon Arbenigol Nam Golwg |
Llinos Vaughan Roberts
|
Heulwen Pierce Jones
|
Sara Llwyd Davies
|
Athrawon Gynorthwyol Nam Golwg |
Hanna Gwyn Williams
|
Uwch Gymorthyddion Arbenigol Nam Golwg |
Anna Hughes
|
Llinos Griffith
|
Sut mae cael mynediad i’r Gwasanaeth?
Mae cyfeiriadau i’r Gwasanaeth yn dod o’r gwasanaeth iechyd (adrannau Offthalmoleg mewn ysbytai), Optegwyr, RNIB, rhieni a gweithwyr cymdeithasol.
Mae cyfeiriadau yn cael eu trafod yn erbyn meini prawf mynediad y gwasanaeth mewn fforymau ardal ADYaCh.
Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?
Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?
Beth yw rôl yr ysgol?
Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i greu awyrgylch diogel a gofalus lle y mae’n bosib i bob disgybl ddatblygu’n hapus a hyderus. Er mwyn sicrhau awyrgylch sydd yn gyfeillgar i ddysgwyr gyda nam ar y golwg mae disgwyl i ysgolion:
- Sicrhau fod unrhyw risgiau yn cael eu targedu.
- Sicrhau fod yr awyrgylch dysgu a cymdeithasol yn gynhwysol a chroesawgar.
- Ymateb ar lefelau gwahanol i anghenion drwy ystyried unrhyw gyngor arbenigol rhesymol.
- Fesur cynnydd plant/pobl ifanc sydd yn derbyn ymyraethau er mwyn gallu dangos pa mor effeithiol ydynt .
- Defnyddio asesiadau safonol a chyfeiriol er mwyn gweld cynnydd a phenderfynu ar y gefnogaeth orau addas.
- Sicrhau bod unrhyw strategaethau/ argymhellion gan y gwasanaeth arbenigol yn eu cynnwys ymhob agwedd o fywyd ysgol y disgybl.
Pwy arall sy’n gallu helpu?
Adran Offthalmoleg Ysbyty Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
RNIB Cymru
Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru
Guide Dogs Cymru
Centre of Sign Sight Sound
Derwen, Tîm Integredig Plant Anabl (Gwynedd)
Gwasanaethau Arbenigol Plant (Môn)
Beth fedrwch chi wneud gartref?
Mae gweithio gyda theuluoedd a sicrhau cydweithrediad rhieni yn allweddol ar gyfer perthynas lwyddiannus ag unrhyw ddisgybl.
Perthynas rhieni gyda’r ysgol
- Rhannu gwybodaeth am gyflwr gweledol eich plentyn gyda’r ysgol
- Cadw cysylltiad agos gyda’r ysgol/tîm cefnogol yr ysgol
- Dilyn rhaglenni gan Athrawon Arbenigol Nam Golwg
Perthynas rhieni gyda’r Gwasanaeth Iechyd
- Mynychu profion llygaid rheolaidd Ysbytai neu gan Optegwyr
- Cysylltu efo’r doctor os oes unrhyw newid yn llygaid/ymddygiad/patrwm arferol eich plentyn
- Dylid cydymffurfio gyda unrhyw gyfarwyddyd i’ch plentyn wisgo patch.
Cysylltu gydag eraill
- Dysgu popeth y gallwch am nam golwg eich plentyn. Mwyaf rydych chi'n ei wybod, y mwyaf y bydd yn eich helpu chi ac yna gallwch chi helpu eich plentyn.
- Creu system gefnogi i’ch helpu – creu cyswllt gyda rhieni nam golwg eraill i rannu syniadau
- Sicrhewch fod eich plentyn yn ran o fudiadau neu cyrsiau all-gyrsiol
Defnyddio Cymhorthion Cynorthwyol
- Anogwch eich plentyn i ddefnyddio y cymhorthion cynorthwyol megis sbectol neu chwyddwydrau a roddwyd gan yr optegydd neu adran offthalmoleg.
Datblygu Cysyniadau
- Rhowch gyfarwyddiadau clir i’ch plentyn fel ei fod o yn dysgu am gysyniadau megis mawr/ bach i’r chwith ac i’r dde, pell ac agos
- Helpwch eich plentyn i archwilio pethau newydd gyda'i synhwyrau. Rhowch lawer o gyfle i gyffwrdd ac ymchwilio i wrthrychau, gofyn cwestiynau, a chlywed esboniadau o'r gwrthrychau yma.
- Disgrifiwch y byd o’u cwmpas ar lafar (byd natur, anifeiliaid, lan y mor ac yn y blaen)
- Anogwch eich plentyn i wrando ar synau
Cyfeiriannu a Symudedd
- Atgoffwch eich plentyn i wynebu'r person y mae ef / hi yn siarad neu'n gwrando ac yn ei annog i fynegi ei deimladau a'i anghenion mewn ffordd briodol.
Sgiliau Byw
- Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn cael cyfle i gymryd rhan mewn tasgau yn y cartref megis paratoi diod, coginio, gwisgo yn annibynnol a chadw’n lân.