Cyfathrebu a Rhyngweithio
Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?
Mae’r Gwasanaeth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag:
- Oediad sylweddol gydag iaith a lleferydd
- Anhwylder iaith, lleferydd a chyfathrebu
- Anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol
- Disgyblion sydd o fewn yr Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth
Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
- Gwneud yn siŵr bod gan ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn ddarpariaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion cyfathrebu a rhyngweithio yn eu hysgolion
- Gwneud yn siŵr bod arweiniad a hyfforddiant penodol ar gael i ysgolion gynllunio’n effeithiol ar gyfer ymateb i anghenion disgyblion
- Cynnig ymyraethau sydd wedi’u teilwra ar gyfer beth mae disgybl ei angen.
- Cynnig aelod o’r tîm ddod i’r ysgol i weithio am amser penodol i hyfforddi ac i rannu arfer dda er mwyn cefnogi disgybl i gyflawni targedau.
- Lleoliad mewn canolfan arbenigol os yw’r anghenion yn cwrdd â’r meini prawf mynediad.
Pwy ydi’r tîm?
Uwch Athrawes Arbenigol |
Delyth Gibbard
|
Athrawon Arbenigol |
Iona Ceiriog
|
Nicola Hughes
|
Angharad Walton
|
Alyson Walsh
|
Rachel Luxton
|
Mai Williams
|
Nia Wyn Jones
|
Lowri Watkins
|
Uwch Gymorthyddion Arbenigol |
Siwan Roberts
|
Laura Myles Hughes
|
Manon Jones
|
Becca Wynne
|
Mari Lloyd Roberts
|
Cymorthyddion Arbenigol |
Rhiannon Evans
|
Anwen Roberts
|
Sioned Mai Jennings
|
Lynne Elias
|
Eleri Fôn Edwards
|
Sasha Leanne Jones
|
Lauren Evans
|
Holly Cunningham
|
Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?
Mae angen i’r ysgol wneud cyfeiriad i’r Fforwm Ardal os ydy disgybl am dderbyn mewnbwn gan y Gwasanaeth.
Cyn gwneud cyfeiriad mae’n bwysig bod pob ysgol wedi gweithredu ar lefel ysgol yn gyntaf e.e. drwy grwpiau ffocws a grwpiau targed
Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?
Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?
Beth yw rôl yr ysgol?
Mae disgwyl i bob ysgol gynnig cyfleoedd i gefnogi a datblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio disgyblion.
Dylai ysgol:
- Sefydlu systemau er mwyn targedu unigolion yn ôl eu hangen
- Ymateb yn ar lefelau gwahanol i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
- Defnyddio offeryn sgrinio er mwyn adnabod meysydd mae unigion angen cynhaliaeth ychwanegol
- Ymateb yn raddoledig i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
- Datblygu awyrgylch dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio
- Datblygu awyrgylch sy’n caniatáu amser i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio addas o fewn diwrnod ysgol
Adnoddau
Ieithoedd arwyddion a systemau arwyddion - Canllaw cyflym i Iaith Arwyddion Prydain a systemau arwyddo fel Makaton, Signalong a Cymraeg/Saesneg a gefnogir gan arwyddion
Pwy arall sy'n gallu helpu?
https://speechandlanguage.org.uk - Speech and Language UK (ICAN gynt)
www.afasic.org.uk - Afasic
www.elklan.co.uk - Elklan
www.autism.org.uk - The National Autistic Society
https://awtistiaethcymru.org/ - Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.
Speech and Language Link: Parent Portal (speechandlanguage.info)