Corfforol / Meddygol

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

Plant a phobl ifanc hefo cyflyrau corfforol er enghraifft, Palsi’r Ymennydd (Hemi a Quadriplegic), Niwrogyhyrol e.e. Muscular Dystrophy, Muscular Dystrophy a CMT, Spina biffida, Ehlers Danlos

Plant a phobl ifanc hefo cyflyrau meddygol, er enghraifft, Epilepsi, Clefyd Siwgr, alergeddau, calon ayyb.

Ni fydd pob plentyn/person ifanc sydd â chyflwr corfforol / meddygol angen cymorth ychwanegol ond fe fydd rhai.

Ni fydd gan bob plentyn a pherson ifanc sydd â chyflwr meddygol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Y cwestiwn bob amser yw p'un a oes gan y plentyn neu'r person ifanc anhawster dysgu neu anabledd sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY).


Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

  • Ymweliad ymgynghorol i drafod anghenion.
  • Ymgynghori efo personél / asiantaethau iechyd am gyngor.
  • Trafod y ddarpariaeth fydd angen ar y plentyn neu'r person ifanc.
  • Arweiniad arbenigol i ysgolion ar sut i ddiwallu anghenion meddygol o fewn awyrgylch ysgol.
  • Arweiniad arbenigol ar addasu cwricwlaidd, cydlynu gwybodaeth a datblygu agweddau cynhwysol.
  • Ymweliadau graddoledig i gefnogi targedau / anghenion y disgybl yn ôl yr anghenion.
  • Hyfforddiant wedi ei deilwrio ar gyfer anghenion ysgolion.

Archwiliad Amgylcheddol sy'n cynnwys:

  • Mynediad i adeiladau a chais am ddarparu, er enghraifft, lifftiau, rampiau, rheiliau llaw yn ogystal ag addasiadau i doiledau ac ystafelloedd meddygol.
  • Mynediad i'r cwricwlwm a chyngor ar  ddodrefn arbenigol, megis gweithfannau wedi eu haddasu, seddi arbenigol, tablau newid, taflenni codi, offer ar gyfer Addysg Gorfforol a Thechnoleg.
  • Cyngor cyffredinol ar: Asesu a rheoli risg a Hyfforddiant Symud a thrin pobl.
Pwy ydi’r tîm?
Athrawon Arbenigol

Mari Lois Hughes

Hanna Gwyn Williams

Asesydd Risg Plant - Symud a Thrin

Mari Davies

 Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

Mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth unai drwy gyfeiriad gan Berson Proffesiynol o Fwrdd Iechyd neu gall ysgol wneud cais i’r Fforwm Ardal am gefnogaeth y gwasanaeth.

 

Clywed Llais y Plentyn / Person Ifanc

Mae’n bwysig iawn bod pawb sy’n gweithio efo’r plentyn neu'r person ifanc yn cymryd rhan yn y cyfarfod i greu y Cynllun Meddygol Unigol (CMU) neu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) fel ein bod yn darganfod be sy’n bwysig i’r disgyblion. Mae yna lawer o ffyrdd y gall plentyn neu berson ifanc gymryd rhan. Wrth wneud hyn byddwn yn creu CMU neu CDU personol iawn i’r plentyn neu'r person ifanc. Byddwn yn gwneud hyn drwy siarad efo’r teulu, a chytuno sut yw’r ffordd orau i flaenoriaethu a darparu’r gefnogaeth.

 

Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?

 

Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i greu awyrgylch diogel a gofalus lle y mae’n bosib i bob disgybl ddatblygu’n hapus a hyderus. Er mwyn sicrhau awyrgylch sydd yn gyfeillgar i ddysgwyr gyda nam corfforol/meddygol mae disgwyl i ysgolion:

  • Sicrhau fod unrhyw risgiau yn cael eu targedu. 
  • Sicrhau fod yr awyrgylch dysgu a cymdeithasol yn gynhwysol a chroesawgar.
  • Ymateb ar lefelau gwahanol i anghenion drwy ystyried unrhyw gyngor arbenigol rhesymol.
  • Fesur cynnydd plant / pobl ifanc sydd yn derbyn ymyraethau er mwyn gallu dangos pa mor effeithiol ydynt.
  • Defnyddio asesiadau safonol a chyfeiriol er mwyn gweld cynnydd a phenderfynu ar y gefnogaeth orau addas.
  • Sicrhau bod unrhyw strategaethau/ argymhellion gan y gwasanaeth arbenigol yn eu cynnwys ymhob agwedd o fywyd ysgol y disgybl.

 

Adnoddau


Pwy arall sy'n gallu helpu?

Action for Sick Children 36 Jackson’s Edge Road Disley Stockport SK12 2JL 0800 0744519 www.actionforsickchildren.org

Action for ME and Chronic Fatigue 3rd Floor, Connignton House 38 Victoria Street Bristol BS1 6BY Llinell Gymorth: 0845 1232314 www.afme.org.uk

The Anaphylaxis Campaign PO Box 275 Farnborough HAMPSHIRE GU14 6SX 01252 542029 http://www.anaphylaxis.org.uk

Allergy UK (British Allergy Foundation) Planwell House LEFA Business Park Edgington Way Sidcup, Kent, DA14 5BH Llinell Gymorth 01322 619898 (Agored o 10:00 a.m. - 3:00 p.m.) http://www.allergyuk.org

Cystic Fibrosis Trust One Aldgate Second Floor London EC3N 1RE 0845 859 1000 www.cftrust.org.uk

National Eczema Society 11 Murray Street London NW1 9RE 02072813553 Llinell Gymorth 0870 241 3604 www.eczema.org

SCOPE CYMRU Swyddfa Ardal Gymunedol Y Lanfa Ffordd y Sgwner  CAERDYDD  CF10 4EU 0292 2046 170 www.scope.org.uk

SENSE 101 Pentonville Road, London N1 9LG 0845 127 0060 www.sense.org.uk

Terrence Higgins Trust (Gwybodaeth am HIV ac AIDS) Canton House 435/451 Cowbridge Road East Canton CAERDYDD CF5 1WE 0292 066 6465 www.tht.org.uk

Child Accident Prevention Trust Clerks Court 22 26 Farringdon Lane LONDON EC1R 3AJ 020 76083828 www.capt.org.uk

CLIC Sargent 0800 197 0068 www.clicsargent.org.uk

Plant yng Nghymru CAERDYDD 029 2032034 2434  www.childreninwales.org.uk/cy/ 

Diabetes UK Cymru CAERDYDD 02920 668276 Llinell Gymorth: 0845 1202960 www.diabetes.org.uk

Shine (Association for Spina Bifida and Hydrocephalus (ASHBAH) 42 Park Road PETERBOROUGH PE1 2UQ 01733 555988 www.shinecharity.org.uk

Asthma UK Cymru 3rd Floor Eastgate House 35/43 Newport Road CAERDYDD CF24 OAB Llinell Gymorth: 02920 435 400 http://www.asthma.org.uk/cymru 

Epilepsi Cymru Llinell Gymorth: 0845 741 3774 http://epilepsy.wales

Epilepsy Action New Anstey House Gate Way Drive Yeadon, LEEDS LS19 7XY 0113 210 8800 Ffacs 0113 391 0300 www.epilepsy.org.uk

The Psoriasis Association Dick Coles House 2 Queensbridge NORTHAMPTON NN4 7BF 0845 676 0076
www.psoriasis-association.org.uk

The Sickle Cell Society 54 Station Road LONDON NW10 4UA 020 89617795 www.sicklecellsociety.org

British Red Cross UK Office Moorfields LONDON EC2 9AL 0870 170 7000 www.redcross.org.uk

Royal Society for the Prevention of Accidents (RoSPA) Edgbaston Park 353 Bristol Road BIRMINGHAM B5 7ST 0121 2482000 www.rospa.com

Galw Iechyd Cymru 111  www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk