Adnoddau a chyfarpar

Teipio Testun - Dysgwch sut i deipio gyffwrdd (touch type) â'r gweithgaredd hwn ar y we - Mae Teipio Testun yn weithgaredd hygyrch ar y we i gefnogi siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn yr ysgol wrth ddysgu i deipio gyffwrdd (touch type). Mae‘r rhaglen yn bennaf wedi ei chynllunio ar gyfer disgyblion gyda nam ar y golwg ond mae y rhaglen yn addas ar gyfer unrhyw blentyn sydd eisiau dysgu i deipio gyffwrdd ‘touch typing’. Gweler Adran 'Adnoddau' isod i lawrlwytho canllawiau i gael mynediad i’r adnodd.
Adnoddau cyffredinol - Pinnau felt arogleuog/ trwchus, prennau mesur/ onglydd melyn, prennau mesur/ onglydd rhifau mawr, pensiliau trwm megis 9B Adnoddau
Partially Sighted Society Cwmni sy’n darparu adnoddau megis llyfrau gwaith llinellau trwm, pren mesurau,
onglyddion, dyddiaduron ysgol wedi addasu i brint mawr ayyb. https://www.partsight.org.uk/
Offer Arbenigol ar gyfer anghenion Nam Golwg unigryw y plentyn - Defnyddio teclunau golwg gwan pwrpasol megis chwyddwydrau – gan Optegwyr
Darllenydd Ymdrwythol (Immersive Reader)
Drwy ddefnyddio cyfri Hwb
y plentyn gellir defnyddio pecyn Microsoft er mwyn gwneud defnydd o ‘r darllenydd Ymdrwythol (Immersive Reader)
. Mae hwn yn offeryn am ddim sy'n gallu darllen testun ar lafar yn Gymraeg neu Saesneg. Mae hwn yn adnodd gwych ar gyfer disgyblion gyda nam ar y golwg.
Nawdd Offer TGCh - O dro i dro mae Cymdeithas Cŵn Tywys Cymru yn cynnig nawdd tuag at offer TGCh ar gyfer disgyblion gyda nam ar y golwg.
https://www.guidedogs.org.uk/getting-support/help-for-children-and-families/living-independently/assistive-technology-for-children/
A oes gan eich plentyn yr offer arbenigol sydd ei angen arno gartref?
Mae Cymdeithas y Deillion yn darparu gwasanaeth sy’n cefnogi rhieni i wneud cais i gael offer ar gyfer disgyblion gyda nam ar y golwg.
Gweler Adran 'Adnoddau' isod i lawrlwytho'r poster gwybodaeth ‘Offer Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru’ sy’n dangos y manylion cyswllt
Adnoddau
RAZOR VIEW ERROR
Path: /SiteElements/Razor/FfeiliauADYaCh.cshtml
Error: The remote server returned an error: (500) Internal Server Error.