Cefnogi addysg plant sy'n ffoaduriaid
Cefnogaeth ariannol yn yr ysgol - gwybodaeth ynghylch prydau ysgol am ddim, cludiant ysgol a chymorth ariannol tuag at wisg ysgol a chit ymarfer corff, a chynnyrch misglwyf
Gwynedd – cefnogaeth ariannol yn yr ysgol
Ynys Môn – cefnogaeth ariannol yn yr ysgol
Llyfryn Croeso i Wynedd
Llyfryn Croeso i Wynedd – fersiwn Wcraineg
Llyfryn Croeso i Wynedd – fersiwn Saesneg
Llyfryn Croeso i Wynedd – fersiwn Cymraeg
Croeso i Ynys Môn
Croeso i Ynys Môn - fersiwn Saesneg
Croeso i Ynys Môn - fersiwn Cymraeg
Gwefan Cyngor Sir Ynys Môn
Cymorth i bobl sydd yn cyrraedd o Wcráin
Cymorth pellach ar gael gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd – Argyfwng Wcráin - Cymorth i bobl sydd yn cyrraedd Gwynedd o Wcráin
E-bost: ffoaduriaid@gwynedd.llyw.cymru
Cyngor Sir Ynys Môn – Apêl ar gyfer Wcráin
E-bost: cymorthwcrain@ynysmon.gov.uk
Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) - Mae Gwasanaeth SIY Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd:
- Yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
- Yn gallu cyfathrebu gyda’r teulu ac weithiau’r gymuned ehangach yn iaith / ieithoedd y teulu - ond angen dysgu Saesneg (a Chymraeg) er mwyn cael mynediad at y cwricwlwm a chyfathrebu gyda chyfoedion, athrawon yr ysgol a phobl eraill sydd yn byw yng Nghymru.
Gwasanaeth Seicoleg Addysgol - Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio gyda:
- Plant gydag anghenion dysgu ychwanegol o unrhyw fath (anawsterau dysgu penodol, anawsterau emosiynol, plant/pobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth a.y.y.b.)
- Mae gan bob ysgol Seicolegydd Addysgol Cyswllt,
- Mae’r Seicolegwyr Addysgol yn gweithio yn agos gyda staff o fewn Ysgolion, yn enwedig y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).
- Os ydych yn riant neu ofalwr sydd yn bryderus am eich plentyn rydym yn awgrymu i chi drafod gyda’r CADY yn yr Ysgol yn y lle cyntaf.
Adnoddau Llesiant i ysgolion
Gweithgaredd 3 peth da - Mae hwn yn weithgaredd hawdd a braf i wneud ar ben eich hun neu fel teulu. Mae ymchwil yn awgrymu bod y gweithgaredd syml hwn yn gallu codi lefel hapusrwydd a chefnogi lles emosiynol. Cafodd y gweithgaredd ei datblygu gan Martin Seligman sydd yn enwog am ddechrau a datblygu ymchwil yn y maes seicoleg gadarnhaol (positive psychology).
Dyddiadur Diolchgarwch
Fy Lle Hapus
Anadlu o'r bol
Fideo YouTube: Anadlu o'r bol
Cefnogi plant drwy brofedigaeth - Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Gwynedd a Môn - Mae’r ddogfen wedi ei greu ar gyfer athrawon, oedolion a gofalwyr sy’n cefnogi plentyn neu blant sydd wedi profi colled neu brofedigaeth.
Gweithdai Lles / Pecyn Lles (Uwchradd) Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn cynnwys:
- Pecyn Adnoddau Lles - Pecyn Adnoddau a Fideo
- Straen a Gorbryder - Llyfr Gwaith a Fideo
- Meddylgarwch - Llyfr Gwaith a Fideo
Y Pum Cam Hanfodol Dull Cymell Emosiynau (Emotion Coaching)- Mae’r Dull Cymell Emosiynau (Emotion Coaching) yn strategaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi ei seilio ar ymchwil y seicolegydd John Gottman. Edrychodd ei ymchwil ar wahanol fathau o ymatebion gan oedolion i gyfathrebu emosiynol plant.
Cefnogi yn dilyn trawma -
Adnoddau pellach i ysgolion
Noddfa Ceredigion – Adnoddau wedi’i lunio gan Gyngor Sir Ceredigion
Guidance for Admitting and Welcoming Ukrainian Citizens into Flintshire Schools - Adnoddau wedi’i lunio gan Sir y Fflint
Say it in … Wcreineg - Adnodd gan Y Mentrau Iaith sydd yn dangos rhai o eiriau ‘hanfodol’ yn yr iaith Gymraeg wedi eu cyfieithu i’r iaith Wcreineg
Pecyn Widget i Gefnogi Ffoaduriaid / The Widget Refugee Support Pack – Adnodd i gefnogi cyfathrebu. Mae gan y pecyn cardiau cyfathrebu penodol a gefnogir gan symbolau ac adnoddau amrywiol gall ei ddefnyddio gan unrhyw un i helpu ffoaduriaid i gyfathrebu gwybodaeth hanfodol o ran iechyd, cartref ac addysg.
Twinkl , gwefan llawn adnoddau i athrawon a staff cefnogi, â sydd a o adnoddau SIY a dwy iaith, gan gynnwys llawer mewn Wcreineg, er enghraifft:
The Bell Foundation - Mae gwefan The Bell Foundation yn cynnwys cannoedd o adnoddau am ddim i’w lawrlwytho, gan gynnwys yr ugain tudalen Syniadau Gwych. Mae’r Syniadau Gwych hyn yn rhoi’r rhesymeg y tu ôl i athrawon i ddefnyddio’r dulliau a’r strategaethau profedig amrywiol a argymhellir i’w defnyddio gyda phawb yn y dosbarth, ond yn benodol, gyda dysgwyr sy’n defnyddio Saesneg fel Iaith Ychwanegol. Mae pob Syniad Gwych yn cynnwys dolenni i adnoddau perthnasol ac mae llawer o Syniadau Gwych hefyd yn cynnwys fideos canllaw byr. Darganfyddwch yr 20 Syniadau Gwych
Gwybodaeth am drefniadaeth y broses addysgol ar gyfer plant Wcrain - Mae'r ddogfen hon gan Gomisiynydd Hawliau Dynol Wcráin, yn nodi adnoddau wê i helpu plant Wcrainaidd i astudio tra eu bod nhw i ffwrdd o’u cartrefi. Wedi’i rannu gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Cefnogi plant Afghanistan mewn ysgolion - Supporting Afghan children in schools - Adnodd gan Refugee Education UK. (Tachwedd 2021). Gall nifer o'r strategaethau fod yn ddefnyddiol i gefnogi ffoaduriaid o wledydd eraill hefyd.
Mae gwefan Noddfa yn cynnig gwybodaeth am dai, cyfraith mewnfudo, addysg, ac ati, ar gyfer pobl sy’n cyrraedd Cymru o wlad arall/wledydd eraill. Gellir defnyddio’r wefan hon mewn llawer o ieithoedd gwahanol, gan gynnwys Wcraineg, trwy ddewis y blwch ‘Dewis Iaith’.
Gwybodaeth Iechyd wedi’i gyfieithu ‘Doctors of the World’ - cyfres o adnoddau sy'n mynd i'r afael â chwestiynau cyffredin gan gynnwys sut i gofrestru gyda meddyg teulu, COVID 19 a'r brechlyn yn ogystal â chadw pobl ifanc yn iach.
Gweminarau defnyddiol
Gweminar: ‘Welcoming Ukrainian Arrivals’ - Gweminar gan The Bell Foundation ar groesawu bobl sydd yn cyrraedd Gwynedd o Wcráin. Croesawu a chefnogi disgyblion sydd newydd gyrraedd sydd wedi cael eu dadleoli. Bydd Lina Maksymuk yn darparu gwybodaeth allweddol am y cyd-destun Wcreineg sy'n hanfodol er mwyn i ysgolion baratoi ar gyfer newydd-ddyfodiaid. (Mai 2022)
Gweminar: How to Talk with Children and Young People About War | Understanding and Supporting our Refugee Children - Gan Dr Tina Rae, Cadeirydd yr Athro Barry Carpenter, wedi’i drefnu by Evidence for Learning (EfL) | LearningShared (4 Ebrill 2022)