Cwnsela
Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Gwynedd a Môn
Mae y Gwasanaeth Cwnsela ar gael yn ysgolion uwchradd a chynradd Gwynedd ac Ynys Môn; mae darpariaeth rhithiol ar gael i rhai fyddai yn dymuno.
Medrwch gyfeirio dysgwyr atom drwy y ffurflen gyfeirio, ar gael yn yr Adran 'Adnoddau' isod. Medr dysgwyr hunangyfeirio hefyd.
Am unrhyw ymholiadau plîs cysylltwch: drwy e-bost DoraWendiJones@gwynedd.llyw.cymru neu ar 07815 597244.
Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?
Gwasanaeth sydd ar gael i ddisgyblion ysgolion ysgolion uwchradd a chynradd Gwynedd a Môn
Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
Gwasanaeth Cwnsela cyfrinachol a phroffesiynol sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Darperir y gwasanaeth gan gwnselwyr cymwys a phrofiadol ym mhob ysgol yn yr ardal ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod dioddef yn emosiynol dros amser. Er enghraifft, fe all plant a phobl ifanc wneud defnydd o’r gwasanaeth os ydynt yn:
- Teimlo yn isel
- Yn dioddef o bryder
- Efo hunan werth isel/diffyg hyder
- Hunan-anafu
- Yn dioddef yn emosiynol oherwydd rhieni yn ysgaru, profedigaeth, straen gwaith ysgol/arholiadau, problemau efo ffrindiau/cariadon, rhywioldeb, bwlio, problemau teuluol.
- Angen cyfeiriad ymlaen i wasanaethau arbenigol iechyd meddwl
Mae Cwnsela yn cynnig cyfle i:
- Drafod materion yn gyfrinachol efo rhywun annibynnol.
- Lleihau pryder.
- Gael cymorth i ddeall a delio efo problemau emosiynol.
- Ddod i adnabod eich hun yn well a datblygu hunan-ymwybyddiaeth.
Mae materion a drafodir efo cwnselydd yn gyfrinachol; ni fydd y cwnselydd yn datgelu unrhyw wybodaeth heb ganiatâd y cleient (person ifanc). Fel arfer, os ydy person ifanc dros 14 oed a/neu yn gymwys y gydsynio i gwnsela, nid oes rhaid cael caniatâd rhiant i weld cwnselydd. Os bydd y cwnselydd o’r farn fod cleient mewn unrhyw fath o berygl yna bydd yn angenrheidiol datgelu gwybodaeth i sicrhau diogelwch.
Pwy ydi’r tîm?
Uwch Gwnselydd |
Wendi Jones
|
Cwnselwyr |
Deneise Jones
|
Rhian Haf Connell
|
Mared Llwyd-Roberts
|
Nia Wyn Williams
|
Karen Wyn Jones
|
Glesni Prytherch
|
Mirain Glyn
|
Heather Hughes
|
Meleri Wyn Jones
|
Bedwyr Parri
|
Erin Amber Jones
|
Annes Heys
|
Cwnselydd / Therapydd Celf |
Lowri Brengain Williams
|
Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?
Pwy all wneud Cyfeiriad?
Gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio efo’r person ifanc, rhieni neu gall person ifanc hunan-gyfeirio.
Sut mae gwneud Cyfeiriad?
Bydd angen cwblhau ffurflen gyfeirio sydd ar gael yn yr ysgol neu gweler Adran 'Adnoddau' isod). Mae angen sicrhau fod plant a phobl ifanc sydd yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth yn:
- Ymwybodol o beth ydy cwnsela ac yn cydsynio i’r cyfeiriad.
- Rhwng 10 a 18 mlwydd oed ac yn mynychu ysgol yng Ngwynedd/Môn.
- Yn hapus i fynychu sesiynau rheolaidd yn wirfoddol am gyfnod byr, 6 sesiwn wythnosol fel arfer.
Camau nesaf
Unwaith bydd cyfeiriad wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Cwnsela bydd yn mynd ar restr aros ar gyfer yr ardal. Bydd y cyfeiriadau yn cael eu prosesu yn ôl dyddiad a gall fod rhestr aros hir mewn rhai ardaloedd. Bydd unigolion yn cael cynnig dyddiad i gyfarfod a’r cwnselydd ardal fydd yn asesu ac yn cytuno ar ffordd ymlaen efo’r person ifanc. Gall hyn olygu hyd at 6+ sesiwn wythnosol o gyfarfod efo’r cwnselydd yn yr ysgol. Mae’r gwasanaeth ar gael ar ddyddiau penodol yn mhob ardal yn ystod y tymor ysgol yn unig, nid gwasanaeth brys ydy’r gwasanaeth cwnsela.
Cyfeiriadau na fydd yn addas
Fe all cyfeiriad fod yn anaddas os ydy plentyn/person ifanc:
- Wedi cael cynnig cefnogaeth therapiwtig gan wasanaeth arall.
- Fod risg dybryd o hunan-laddiad, hunan-anafu difrifol, ymddygiad seicotig – dylai cyfeiriad brys gael ei wneud i ysbyty.
- Fod gwir risg o berygl iddynt eu hunain neu eraill.
- Yn rhan o broses cyfreithiol – byddai angen sicrhau dilyn protocol yr heddlu o ran therapi cyn achos llys.
Ystyriaethau Eraill
Os, ym marn y cwnselydd, fod y plentyn yn gymwys o dan reolau Gillick (Gillick competence) mae gan y plentyn/person ifanc hawl i weld cwnselydd heb ganiatâd rhieni/gofalwyr/athrawon. Argymhellir cyswllt rhwng gweithwyr os ydy Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) neu meddyg teulu yn gwneud y cyfeiriad. Fe all y cwnselydd fod o’r farn nad ydy’r gwasanaeth yn addas ar gyfer rhai cyfeiriadau, bydd y sawl sydd yn cyfeirio yn cael gwybod. Ni fydd unrhyw adborth yn cael ei roi i gyfeirwyr, oni bai ei fod ar gais y person ifanc. Os bydd angen datgelu gwybodaeth mewn achos llys bydd angen caniatad wedi ei arwyddo gan y person ifanc.
Plant a phobl Ifanc na fyddai yn addas ar gyfer gwasanaeth Cwnsela
Rhai efo symptomau sydd yn awgrymu salwch meddwl megis seicosis, iselder dwys, anhwylderau bwyta amlwg, PTSD.
Rhai efo anhwylderau niwroddatblygol a/neu niwroseiciatryddol cymhleth a fyddai angen asesiad gan dim aml-ddisbyblaethol.
Pwy arall sy'n gallu helpu?
https://youngminds.org.uk Rydym yn arwain y frwydr am ddyfodol lle mae meddyliau pobl ifanc yn cael eu cefnogi a'u grymuso, beth bynnag yw'r heriau.
www.mind.org.uk Rydym yn darparu cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n dioddef o broblem iechyd meddwl. Rydym yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth.
www.cruse.org.uk Mae ein gwefan Hope Again (http://hopeagain.org.uk) yn wefan sydd wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc gan bobl ifanc. Mae'n cynnwys gwybodaeth a byrddau negeseuon lle gall pobl ifanc rannu eu profiadau.
https://www.camhs-resources.co.uk/downloads Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)
https://www.youtube.com/watch?v=XiCrniLQGYc Fideo BlackDog - 'I had a black dog, his name was depression'
Therapi Celf – Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn
Mae Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Gwynedd a Môn yn cynnig sesiynau therapi celf i gefnogi anghenion emosiynol a seicolegol plant a phobl ifanc.
Therapi Celf - Taflen Wybodaeth i Rieni a Gweithwyr Proffesiynol - gweler Adran 'Adnoddau' isod
Dyma fideo am Therapi Celf wedi’i anelu at Blant a Phobl Ifanc, ond gall fod hefyd o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol a rhieni.
Therapi Chwarae
Dyma fideo am Therapi Chwarae
Cwnsela gyda Ci Therapi
Dyma fideo Cwnsela gyda Ci Therapi
Adnoddau
RAZOR VIEW ERROR
Path: /SiteElements/Razor/FfeiliauADYaCh.cshtml
Error: The remote server returned an error: (500) Internal Server Error.