Preifatrwydd a Chwcis
Preifatrwydd
Cyfrifoldeb
Cyngor Gwynedd, ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn, sy'n gyfrifol am eich gwybodaeth bersonol.
Pam mae angen eich gwybodaeth arnom
Rhennir gwybodaeth bersonol er mwyn cefnogi datblygiad a lles plant a phobl ifanc 0 - 25 oed, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac i gefnogi eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwneir hyn er mwyn:
- sicrhau bod pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni eu potensial llawn
- gwella cynllunio a darparu cymorth i ddysgwyr rhwng 0 a 25 oed, gydag ADY
- rhoi anghenion, barn, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth wraidd y broses
- canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol ar waith sy'n cael eu monitro a'u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
Sail gyfreithlon
Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw erthygl 6(1)(c) a 6(1)(e) o GDPR y DU, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hyn yn rhwymedigaeth gyfreithiol neu fel rhan o'n tasg gyhoeddus.
Y ddeddfwriaeth berthnasol yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Os yw'r wybodaeth yn cynnwys data categori arbennig, megis gwybodaeth iechyd, grefyddol neu ethnig, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i'w phrosesu yw Erthygl 9(2)(g) o GDPR y DU, sydd hefyd yn ymwneud â'n tasg gyhoeddus a diogelu eich hawliau sylfaenol ac Atodlen 1 rhan 2(6) o DDD 2018 sy'n ymwneud â dibenion statudol a llywodraethol.
Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn dibynnu ar ddibenion iechyd a gofal cymdeithasol Erthygl 9(2)(h).
Categorïau o wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu
Data personol disgyblion
• Dynodwyr personol fel enw a chyfeiriad.
• Nodweddion fel rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, rhif disgybl unigryw, iaith, cenedligrwydd, gwlad enedigol a chymhwysedd prydau ysgol am ddim.
• Gwybodaeth asesu (megis canlyniadau profion cenedlaethol Cymru, asesiadau statudol ac asesiadau parhaus athrawon).
• Gwybodaeth iechyd a meddygol perthnasol.
• Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwybodaeth am anabledd.
• Manylion am faterion ymddygiadol neu waharddiadau perthnasol.
• Mynediad cyfreithiol i'r disgybl ac i unrhyw orchymyn llys sy'n nodi hawliau mynediad.
• Manylion unrhyw ymwneud â'r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol gyda'r teulu.
• Statws plentyn sy'n derbyn gofal (os yw'n berthnasol).
Gwybodaeth bersonol rhieni ac eraill
• Gwybodaeth bersonol sylfaenol (megis enw, cyfeiriad, dyddiad geni, manylion cyswllt, man gwaith ac ati).
• Gwybodaeth bersonol sylfaenol perthnasau perthnasol (megis enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, perthynas â'r plentyn ac ati).
• Mynediad cyfreithiol i'r disgybl ac i unrhyw orchymyn llys sy'n nodi hawliau mynediad.
• Manylion unrhyw ymwneud â'r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol â'r teulu (gall hyn gynnwys gwybodaeth am y rhieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu neu aelodau o'r teulu).
Pwy arall fydd yn derbyn y wybodaeth
Rydym yn rhannu'r wybodaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ysgolion, meithrinfeydd, Gyrfa Cymru, Grŵp Llandrillo Menai a phartneriaid addysg eraill, a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn. Byddwn ond yn gwneud hyn pan fo'n berthnasol ac yn briodol.
Pa mor hir rydym yn ei gadw
Byddwn yn cadw'r wybodaeth hyd nes y bydd eich plentyn yn 35 oed.
Eich hawliau
Am wybodaeth am eich hawliau, gweler gwefan Cyngor Gwynedd, Datganiadau preifatrwydd a chwcis (llyw.cymru).
Os ydych yn anhapus gyda'r ffordd y mae'r Cyngor wedi ymdrin â'ch gwybodaeth, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor
swyddogdiogeludata@gwynedd.llyw.cymru
Tachwedd 2024
Cwcis
Pan fyddwch yn ymweld â'r wefan hon am y tro cyntaf byddwch yn cael neges yn dweud bod yn cwcis yn cael eu defnyddio ar y wefan. Efallai na fydd rhannau o'r wefan yn gweithio'n iawn os ydych yn dewis gwrthod cwcis gan y wefan hon.
Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan - pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb. Gellir eu defnyddio hefyd i gofio manylion mewngofnodi ar gyfer rhai gwasanaethau, e.e. ceisiadau am swyddi ar lein.
Mae'r wybodaeth isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:
Cwci's yr Wefan
Cwci |
Enw |
Pwrpas |
Ystadegau Siteimprove SiteAnalyze |
ASP.NET_SessionId |
Pwrpas cwci yma yw cofnodi’r drefn y byddwch yn edrych ar dudalennau yn ystod eich ymweliad â’r wefan. Gall yr wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn ceisio lleihau eich siwrnai chi fel cwsmer o fewn y safle, a’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol yn gynt. |
Cwci Cyngor Gwynedd |
dangos-neges-cwcis |
Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi a ydych wedi derbyn cwcis oddi ar y wefan hon ai peidio. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei ddal yn y cwci hwn. |
Cwci is-safle |
safle |
Mae'r cwci yma yn cael ei defnyddio i cadw trac o beth yw'r is-safle cyfredol ac i ddewis pa tudalen ddylir cael ei lwytho ar ol clicio ar rhai lincs. |
Gall Cyngor Gwynedd ddiweddaru’r termau hyn ar unrhyw adeg. Dylech ymweld â’r dudalen hon yn achlysurol er mwyn adolygu’r wybodaeth sydd arni i chi fel defnyddiwr.