Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

  • Plant gydag anghenion dysgu ychwanegol o unrhyw fath (anawsterau dysgu penodol, anawsterau emosiynol, plant/pobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth a.y.y.b.)
  • Gweithio ar lefel plant/pobl ifanc unigol, ysgol a dalgylchol yn ôl yr angen

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

  • Hyfforddiant ar lefel ysgol, ardal a sirol gan gynnwys:

Er Enghraifft ELSA Cymorthyddion Llythrennedd Emosiynol, Meddylfryd twf, Ymwybyddiaeth Ofalgar, Gorbryder, Dulliau Ysgol Gyfan a mwy penodol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol Penodol, Ymlyniad a Trawma Datblygiadol, Anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.

  • Ymyraethau Grŵp/unigol therapiwtig
    • Ymgynghori gyda rhieni a staff allweddol o fewn yr ysgol ar lefel unigolyn neu grŵp i hybu newid a datblygiad.
    • Cynnal prosiectau ymchwil
    • Defnydd o ddulliau Cynllunio sydd yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn
    • Mewnbwn Uwch Seicolegydd Addysg Ddynodedig ar gyfer meysydd arbenigol
    • Goruchwyliaeth/sesiynau trafod ar gyfer staff

 
Pwy ydi’r tim?

Prif Seicolegydd Addysgol

Ffion Edwards Ellis

Dirprwy Brif Seicolegydd Addysgol

Elenid Glyn (maes Cynhwysiad)

Uwch Seicolegydd Addysgol

Iona Rees (maes Blynyddoedd Cynnar)

Einir Peters (maes Cyfathrebu a Rhyngweithio)

Seicolegydd Addysgol

Llio Rhisiart

Sioned Griffiths

Nia Gwawr Pierce

Ruth Williams

Seicolegydd Addysgol Cynorthwyol

Ffion Angharad Roberts

Hanna Elin Hughes

 

Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

  • Mae gan bob ysgol Seicolegydd Addysgol cyswllt, sydd yn gweithredu ar lefel dalgylch ysgol uwchradd. Mae’r Ysgol yn blaenoriaethu gwaith ar y cyd gyda’r Seicolegydd dwy waith y flwyddyn.
  • Mae’r Seicolegwyr Addysgol yn gweithio yn agos gyda staff o fewn ysgolion, yn enwedig y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).
  • Os ydych yn riant sydd yn bryderus am eich plentyn rydym yn awgrymu i chi drafod gyda’r Cydlynydd ADY yn yr Ysgol er mwyn trafod ymhellach yn y lle cyntaf.
  • Mae’r gwaith mae’r Seicolegydd yn ei wneud yn cael ei gynllunio yn ofalus ar ddechrau tymor ysgol ar lefel dalgylchol er mwyn sicrhau fod y mewnbwn yn cael ei ddefnyddio yn ôl yr angen ac yn unol â’r Meini Prawf.
  • Mae’r Seicolegwyr Addysgol yn gweithio yn agos iawn gyda’r Timau eraill o fewn y Gwasanaeth Integredig ADYaCh ar lefel gweithredol a strategol.

 

Beth ydi rôl y Seicolegydd Addysgol?

  • Defnyddio seicoleg i sicrhau’r deilliannau addysgol gorau posibl ar gyfer unigolion rhwng 0 a 19 oed.
  • Darparu Gwasanaeth sydd o safon uchel ac yn cyd-fynd gyda safonau Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
  • Gweithio mewn modd strategol effeithiol i hybu datblygiad ysgol gyfan yn y ffordd mae ADY a Chynhwysiad yn cael ei dargedu.

 

Beth ydi rôl y Swyddog Ansawdd?

 

Beth ydi rôl yr ysgol?

  • Blaenoriaethu gwaith sydd yn fwyaf addas ar gyfer y Seicolegydd Addysgol ar gyfer trafod yn y ddau sesiwn cynllunio
  • Casglu tystiolaeth o’r hyn sydd yn gweithio, ddim yn gweithio ac yr hyn sydd angen gweithio arno er mwyn trafod yn y cyfarfod cynllunio
  • Bod yn bwynt cyswllt rhwng y Seicolegydd Addysgol a’r rhieni wrth drefnu cyfarfodydd a rhannu gwybodaeth am rôl y tîm Seicoleg Addysgol


Pwy arall sy'n gallu helpu?

www.mind.org.uk

www.autism.org.uk/

www.bdadyslexia.org.uk/

 

Cefnogi yn dilyn trawma

 

Adnoddau 

RAZOR VIEW ERROR
Path: /SiteElements/Razor/FfeiliauADYaCh.cshtml
Error: The remote server returned an error: (500) Internal Server Error.