Datblygu sgiliau motor mân a chryfhau bysedd

sgiliau crydhau bysedd

Syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau motor mân a chryfhau bysedd.

Bydd plant ifanc gyda Nam ar y Golwg yn elwa o ymarferion i ddatblygu eu sgiliau cryfhau bysedd, er mwyn eu paratoi ar gyfer datblygu sgiliau teipio/ braille yn y dyfodol.

Dyma rai syniadau am gemau y gallwch eu gwneud adref gyda’ch plentyn er mwyn datblygu’r sgiliau yma:

  • Creu gwrthrychau (e.e. anifeiliaid) / siapiau allan o glai/ play doh – rowlio, creu pêl, rhannu, creu maint bach a mawr
  • Adeiladu gyda lego
  • Creu siapiau/ lythrennau mewn tywod/ pridd/ paent
  • Creu pyped allan o hen hosan
  • Didoli teganau o ran maint/ lliw
  • Marblis - rowlio, cyfri, didoli
  • Llwytho ‘beads’ ar linyn
  • Codi gwahanol wrthrychau o gwmpas y tŷ gyda pegiau
  • Addurno cacennau bach (gwasgu tiwb eising/ gosod addurniadau bach)
  • Creu llun/ collage drwy dorri gwahanol bapur yn ddarnau bach a’u gosod yn y llun/ rowlio papur sidan yn beli bach a’u gludo gyda’i gilydd i wneud llun
  • Creu patrymau/ anifeiliaid allan o ‘pipe cleaners’

 

Gwefannau sy’n cynnig syniadau ar gyfer datblygu sgiliau motor mân a chryfhau bysedd 

Addurno llun (e.e. Wy Pasg) gyda deunyddiau e.e botymau - https://funlearningforkids.com/

Casglu Adnoddau wrth fynd am dro (e.e. dail, cerrig mân, cregyn er mwyn creu collage/ eu didoli o ran siâp) - https://www.playfulchildhoods.wales/

Sgiliau motor mân – rheolaeth pensil, sgiliau torri, dot i ddot, creu patrymau gyda botymau, ymarfer trasio/ffurfio rhifau FREE Twinkl Membership Guidance | Parents Guide - Twinkl

 

Appiau defnyddiol ar gyfer datblygu sgiliau motor mân a chryfhau bysedd 

  • Tap the Frog
  • Easy Xylophone
  • Dexteria Jr. Lite: Pre-K&K (£0.99)
  • Dexteria Jr (£4.99)