Lles Addysg
Darperir y gwasanaeth uchod gan y Gwasananeth ADY&Ch ar ran awdurdodau Gwynedd a Môn. Fe’i hystyrir gan yr awdurdodau, yn wasanaeth cynhaliol hanfodol, nid yn unig i ddisgyblion a theuluoedd ond hefyd i ysgolion y siroedd.
Nod cyffredinol y gwasanaeth yw ceisio datrys unrhyw broblem, sy’n rhwystro plentyn rhag elwa yn llawn o’r addysg sydd ar gael, drwy gynnig cyngor neu gymorth ymarferol.
Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
Canolbwyntir ar achosion sy’n ymwneud â’r meysydd canlynol:
- presenoldeb plant yn eu hysgolion
- diogelu plant rhag camdriniaeth
- goruchwylio’r drefn mewn perthynas a thrwyddedu plant i berfformio
- goruchwylio’r drefn sy’n ymwneud â chyflogi plant
Sut mae cyfeirio i’r gwasanaeth?
Fel arfer cyfeirir achosion i’r gwasanaeth gan ysgolion. Fodd bynnag, mae modd i blant a theuluoedd gyfeirio eu hunain, yn uniongyrchol, drwy gysylltu â’r Swyddog Lles Addysg yn yr ysgol uwchradd leol neu drwy ffonio 01286 679 007.
Pwy ydi’r tîm:
Uwch Swyddog Lles Addysg |
Meinir Bolton
|
Swyddog Lles Addysg |
Emma Pritchard
|
Angela Bennett
|
Sian Pritchard Parry
|
Linda Caren Jones
|
Angela Owen
|
Carys Hughes
|
Eleri Wyn Jones
|
Tammi Jones
|
Theresa Hodgson
|
Sion Owen
|
Mared Roberts
|
Shân Jones
|
Trwyddedu Perfformiadau Plant
Mae Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 bellach yn weithredol a'u bwriad yw diogelu plant o dan oed gadael ysgol sy'n gweithio ac/neu'n perfformio yn y diwydiant adloniant, modelu neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau eraill. Mae'r angen am drwydded yn dibynnu ar yr hyn sy'n cael ei drefnu. Y prif ffactorau sy'n nodi bod angen trwydded yw:
- Os codir tâl mynediad neu dâl am reswm arall
- Os yw'r perfformiad ar safle â thrwydded i werthu alcohol (hyd yn oed os bydd y bar ar gau yn ystod y perfformiad)
- Os bydd y perfformiad yn cael ei ddarlledu'n fyw (teledu, radio neu ffrydio ar y rhyngrwyd)
- Os bydd y perfformiad yn cael ei recordio i'w ddefnyddio mewn darllediad neu ffilm a fydd yn cael ei weld gan y cyhoedd
- Unrhyw weithgaredd lle mae plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu fodelu lle mae taliad, (ac eithrio treuliau) yn cael ei wneud.
- I wneud cais am drwydded perfformiadau dylid cysylltu a Rhian Khardani ar 01286 679007
- Rhaid cael caniatâd y Pennaeth am unrhyw absenoldeb o ysgol
Mae rhai eithriadau, ond nid yw’r rhain yn berthnasol os oes taliad yn cael ei wneud i blant sy'n perfformio, neu mewn perthynas â hynny, pwy bynnag sy'n cymryd y taliad;
- Perfformiad a drefnir gan ysgol (ysgol addysgol, nid ysgol ddawns neu sefydliad tebyg)
- Mae'r plentyn wedi perfformio am lai na 4 diwrnod yn y 6 mis diwethaf - os oes angen absenoldeb o'r ysgol, yna mae angen cymeradwyaeth ysgrifenedig Pennaeth.
Mae'r rheolau sy'n llywodraethu plant mewn adloniant yn cynnwys plant sy'n cymryd rhan mewn 'perfformiadau' gan gynnwys pob perfformiad darlledu a theatr, ffotograffiaeth plant a modelu.
Mewn rhai achosion gall trefnydd ymgeisio am Gymeradwyaeth Dorfol sy'n ymwneud â'r holl blant sy'n perfformio mewn un gymeradwyaeth. Gallai hyn fod yn ddewis da i grwpiau amatur ac ysgolion. Gofyniad allweddol yw nad yw'r plentyn yn cael ei dalu a bod gan y sefydliad system gadarn ac effeithiol ar waith i ddiogelu plant yn ystod ymarferion a pherfformiad.
Ni chodir tâl am drwyddedau perfformiad plant na Chymeradwyaethau Torfol.
Rheolau sy'n berthnasol i bob perfformiad
P'un a oes angen trwydded ai peidio, mae'n rhaid i drefnwyr sicrhau nad yw plant yn gweithio (perfformio neu ymarfer) yn hirach neu'n hwyrach na'r hyn sy'n cyd-fynd â'u hoedran. Rhaid i blant gael egwyliau priodol. Nid yw amser a dreulir yn cael colur, yn y cwpwrdd dillad neu baratoad corfforol arall yn cyfrif fel egwyl. Fel arfer, dylai egwyl dros nos fod o leiaf 14 awr.
Ni ddylai unrhyw blentyn sy'n cymryd rhan mewn perfformiad gymryd rhan mewn unrhyw gyflogaeth arall ar ddiwrnod y perfformiad neu'r diwrnod canlynol. Nid yw hyn yn effeithio ar berfformiadau ddau ddiwrnod yn olynol.
Hebryngwyr (Chaperones)
Ni all plant gael gofal priodol a chael eu goruchwylio gan rieni neu athrawon drwy'r amser wrth ymarfer neu berfformio, ac felly caiff hebryngwyr eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol. Rhaid i'r hebryngwr weithredu er lles gorau'r plentyn ac felly mae'n rhaid cael hyfforddiant priodol.
Cysylltwch â’r Uwch Swyddog Lles Addysg am fwy o wybodaeth ynglyn a chofrestru fel hebryngwyr.
Amserlenni a Chyfathrebu
Dylid cyflwyno ffurflenni cais ar gyfer trwyddedau perfformio a chymeradwyaethau corff o bobl ddim llai na 21 diwrnod cyn cychwyn y gweithgaredd. Gallai rhai ceisiadau trwydded gymryd llai o amser i'w prosesu ond ni ellir gwarantu hyn.
Canllaw Llywodraeth Cymru
https://llyw.cymru/cadw-perfformwyr-ifanc-yn-ddiogel-trwyddedau-perfformio-ar-gyfer-plant
Adnoddau
RAZOR VIEW ERROR
Path: /SiteElements/Razor/FfeiliauADYaCh.cshtml
Error: The remote server returned an error: (500) Internal Server Error.