Anghenion Dysgu Ychwanegol Penodol

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

Plant a phobl ifanc sydd yn cael anhawster sylweddol yn y maes llythrennedd a rhifedd.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi disgyblion mewn:

  • Ysgolion cynradd
  • Ysgolion uwchradd

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

Mae’r gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Penodol (ADY Penodol) yn gweithio efo rhieni/gofalwyr, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i wneud yn siŵr bod pob disgybl yn:

  • Derbyn yr un cyfleoedd yn union â’u ffrindiau mewn ysgolion.
  • Datblygu sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnyn nhw.
  • Cyflawni eu potensial a datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol.
  • Elwa o wasanaeth arbenigol sy’n ymateb i anghenion addysgol y disgybl.
  • Yn cael ei addysgu mewn awyrgylch sy’n hybu cynhwysiad addysgol.
  • Derbyn cefnogaeth addas ac amserol.                

Mae’r gwasanaeth ADY Penodol yn gweithio efo ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn i sicrhau bod disgyblion gydag anawsterau penodol yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm. Ceisir lleihau effaith yr anawsterau ar unrhyw gynnydd academaidd.

Er mwyn gwneud hyn  rydym fel gwasanaeth yn gosod yr amcanion canlynol;

  • Cynnig hyfforddiant i staff allweddol o fewn ysgolion i ddatblygu sgiliau a defnyddio adnoddau priodol wrth weithio gyda’r disgyblion.
  • Cynnig  gwasanaeth sydd yn helpu disgyblion ADY Penodol mewn ysgolion cynradd, ac uwchradd i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.
  • Monitro datblygiad y disgybl a sicrhau datblygiad cadarn o’r sgiliau angenrheidiol. 
  • Sicrhau bod rhieni yn rhan allweddol o unrhyw gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig.
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol y tîm ADY Penodol er mwyn cynnal y lefelau arbenigedd sydd ei angen i gefnogi  anghenion y disgyblion.

Pwy ydi’r tîm:

Athrawon Arbenigol ADY Penodol

Iona Angharad Edwards

Siân Pritchard Roberts

Sara Llwyd Davies

Uwch Gymorthyddion Arbenigol ADY Penodol

Ann Jones

 

Sut mae cael mynediad i’r gwasanaeth?

Mae cyfeiriadau o’r ysgolion yn cael eu trafod  yn erbyn meini prawf mynediad y gwasanaeth mewn Fforymau Ardal ADYaCh.

 

Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?

 

Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i greu awyrgylch diogel a gofalus lle y mae’n bosib i bob disgybl ddatblygu’n hapus a hyderus. Er mwyn sicrhau awyrgylch sydd yn gyfeillgar i ddysgwyr gydag ADY Penodol mae disgwyl i ysgolion:

  • Sicrhau fod yr awyrgylch dysgu a cymdeithasol yn gynhwysol a chroesawgar.
  • Ymateb ar lefelau gwahanol i anghenion drwy ystyried unrhyw gyngor arbenigol rhesymol.
  • Fesur cynnydd disgyblion sydd yn derbyn ymyraethau er mwyn gallu dangos pa mor effeithiol ydynt.
  • Defnyddio asesiadau safonol a chyfeiriol er mwyn gweld cynnydd a phenderfynu ar y gefnogaeth orau addas.
  • Sicrhau bod unrhyw strategaethau/ argymhellion gan y gwasanaeth arbenigol yn cael eu gweithredu.

 
Adnoddau

 

Pwy arall sy’n gallu helpu?

Cydlynwyr ADY (CADY) yn yr ysgol

Seicolegwyr Addysgol

Swyddogion Ansawdd

SNAP Cymru 

www.bdadyslexia.org.uk

www.nhs.uk/conditions/dyslexia

www.nessy.com/uk

www.dyslexia-assist.org.uk

www.booktrust.org.uk

Pori drwy stori | BookTrust

www.readingrockets.org

Oxford Owl for Home: help your child learn at home - Oxford Owl - https://home.oxfordowl.co.uk/

Tric a Chlic Tric a Chlic – Tric a Chlic

 

Beth fedrwch chi wneud gartref?

  • Siarad efo’ch plentyn
  • Dysgu ac adnabod seiniau llythrennau (sŵn llythrennau)
  • Dysgu ac adnabod seiniau llythrennau Saesneg yn gyntaf cyn camu ymlaen i gyflwyno enwau llythrennau
  • Ymarfer cyfuno seiniau ar lafar  a gofyn beth yw’r sain cyntaf, olaf a chanol yn geiriau byr fel map, mop, dad, mam, cath
  • Dysgu ffurfio llythrennau
  • Ymarfer cyfuno seiniau ar lafar
  • Dysgu rhigymau
  • Gemau odli
  • Chwarae gemau 

 

Adnoddau