Cynnal Ymddygiad

Mae’r Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad yn ceisio newid cadarnhaol mewn ymddygiad pobl ifanc sydd yn profi anawsterau ymddygiadol, emosiynol a datblygiad cymdeithasol. Y nod yw gwella ymddygiad a lleihau’r risg o waharddiad o ysgol.

Mae’r Gwasanaeth Addysg Gartref i Blant Sâl yn gweithio â theuluoedd ac ysgolion prif lif i gefnogi pobl ifanc sydd â chyflyrau meddygol cymhleth i gyrraedd eu llawn botensial. Y nod yw cynnig cefnogaeth brydlon ac effeithiol i er mwyn goresgyn unrhyw broblem all godi oherwydd salwch hir dymor. Gweler Addysg Plant Sâl.

Mae’r tîm yn: 

  • Sicrhau fod ethos yr yn sicrhau perchnogaeth yr ysgolion o’r bobl ifanc yma sydd ag anghenion ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
  • Pob athro/awes ymhob ysgol i dderbyn hyfforddiant priodol fydd yn arwain at athrawon sydd yn hyderus i weithio â phobl ifanc sydd ag anghenion ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
  • Sicrhau arweiniad arbenigol i alluogi ysgolion i deilwrio ymyraethau arbenigol o fewn adnoddau’r ysgol
  • Sicrhau darpariaeth arbenigol safonol lleol ar gyfer y bobl ifanc ac anghenion ymddygiadol ac emosiynol mwyaf dwys

 

Mae gan y Gwasanaeth ganolfannau arbenigol i gefnogi Ymddygiad sy’n gweithredu fel canolfannau dros dro. Ceir Mynediad i’r canolfannau yn dilyn cyfeiriad llwyddiannus gan Ysgol i’r Panel Cymedroli Cynhwysiad. Mi angen tystiolaeth gref o weithredu ar yr egwyddorion uchod o fewn yr Ysgolion Prif Lif cyn gellir ystyried mynediad.

Sut mae posib cael mynediad i’r gwasanaeth?

Mae angen i’r ysgol wneud cyfeiriad i’r Fforwm Ardal os ydy disgybl am dderbyn mewnbwn gan y Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad (Ysgolion Cynradd).

Mae angen i’r ysgol wneud cyfeiriad i’r Fforwm Plant Sâl os ydy disgybl am dderbyn mewnbwn gan y Gwasanaeth (Uwchradd a Cynradd)

Cyn gwneud cyfeiriad mae’n bwysig bod pob ysgol wedi gweithredu ar lefel ysgol yn gyntaf e.e. drwy grwpiau ffocws a grwpiau targed ac ymyraethau unigol.

 

Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?

 

Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?

 

Beth yw rôl yr ysgol?

Mae disgwyl i bob ysgol gynnig cyfleoedd i gefnogi a hyrwyddo ymddygiad priodol mewn modd rhagweithiol.

Dylai ysgol:

  • Sefydlu systemau er mwyn targedu unigolion yn ôl eu hangen
  • Ymateb ar lefelau gwahanol i anghenion disgyblion drwy gynnal grwpiau targed
  • Defnyddio offeryn sgrinio er mwyn adnabod meysydd mae unigion angen cynhaliaeth ychwanegol (Proffil Boxall)
  • Ymateb yn raddoledig i anghenion disgyblion.
  • Datblygu awyrgylch dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a datblygiad cymdeithasol.
  • Datblygu awyrgylch sy’n caniatáu'r cyfle cyfartal i fod dysgwr gael ei gynhwyso o fewn addysg Prif Lif.
  • Mae pob Ysgol Uwchradd wedi derbyn arweiniad a hyfforddiant 'Ysgol sy'n Annog' ‘National Nurturing Schools Programme’ ac yn dilyn rhaglen ddatblygol dros ddwy flynedd yn y maes hwn er mwyn cefnogi a chynnal ymddygiad cadarnhaol eu dysgwyr.

 

Darpariaeth bellach

Mae gan y Gwasanaeth ganolfannau arbenigol i gefnogi Ymddygiad sy’n gweithredu fel canolfannau dros dro. Ceir Mynediad i’r canolfannau yn dilyn cyfeiriad llwyddiannus gan Ysgol i’r Panel Cymedroli Cynhwysiad.  Mae angen tystiolaeth gref o weithredu ar yr egwyddorion uchod o fewn yr Ysgolion Prif Lif cyn gellir ystyried mynediad.

 

Pwy arall sy'n gallu helpu?

Bullying UK www.bullying.co.uk Llwyth o wybodaeth a chysylltiadau defnyddiol, gydag adran dda ar gyfer plant sy'n cael eu bwlio, gan gynnwys gwybodaeth seiberfwlio

Anti Bullying Network www.antibullying.net Amrywiaeth dda o wybodaeth a dolenni i rieni a phobl ifanc. Hefyd, adran dda i athrawon, gyda rhestr ddarllen helaeth

Childline www.childline.org.uk Amrediad eang o adnoddau defnyddiol a gwybodaeth gefndirol

Kidscape www.kidscape.org.uk Elusen yn y DU, sy'n ymroddedig i atal bwlio a cham-drin plant yn rhywiol

Winstons Wish www.winstonswish.org Safle DU sy'n cefnogi plant a phobl ifanc profedigaeth, gyda chatalog ar-lein o lyfrau ac adnoddau defnyddio

Cruse Bereavement Care www.cruse.org.uk Cynghorion ymarferol ar sut i helpu i achub plant, gyda thudalennau arbennig ar gyfer athrawon

Brake www.brake.org.uk Cyngor ac adnoddau ar sut i helpu plant pan fydd rhywun yn cael ei ladd mewn damwain ffordd

Child Bereavement UK https://childbereavementuk.org/ Mae Child Bereavement UK yn cefnogi teuluoedd ac yn addysgu gweithwyr proffesiynol pan fydd babi neu blentyn yn marw neu'n marw a phryd mae plentyn yn cael ei blentyn. Adnoddau i rieni ac athrawon sy'n helpu plant i ymdopi â phrofedigaeth, ac i rieni a phobl ifanc yn eu harddegau sy'n delio â'u colled eu hunain

Family Lives www.familylives.org.uk Cyngor, adnoddau a chysylltiadau i rieni

Kids in the middle www.kidsinthemiddle.org  Cynghorion i rieni a rhestrau o feddyliau, teimladau, ymddygiadau ac anghenion plant

Action for Children Ein gwaith yng Nghymru | Action For Children Gwybodaeth a chymorth gydag ysgariad, profedigaeth a phroblemau ymddygiadol plant

Young Minds www.youngminds.org.uk/for_parents/worried_about_your_child/divorce_separation Gwybodaeth a chyngor i rieni a phlant

Gingerbread www.gingerbread.org.uk Gwybodaeth a chyngor i deuluoedd rhiant sengl

Llyfrau defnyddiol www.partnershipforchildren.org.uk/what-we-do/resources-for-parents/good-books-for-tough-times.html 

Kidscape www.kidscape.org.uk Mae Kidscape yn ceisio mynd i'r afael â materion bwlio a diogelu plant. Mae'r elusen yn gweithio ledled y DU gyda phlant, pobl ifanc, rhieni / gofalwyr a sefydliadau i ddarparu sgiliau ac adnoddau ymarferol i gadw plant yn ddiogel

PFLAG www.pflag.co.uk Mae PFLAG yn cynnig cefnogaeth i rieni a theuluoedd plant hoyw a lesbiaidd

Sorting out Separation www.sortingoutseparation.org.uk Mae Sorting out Separation help yn eich helpu i ddelio â pherthynas yn torri ac yn cynnig cymorth arbenigol i deuluoedd sydd wedi gwahanu

Action for Prisoners’ and Offenders’ Families www.familylives.org.uk Action for Prisoners’ and Offenders’ Families is a national organisation representing the needs of families affected by imprisonment.

The Prison Advice and Care Trust (Pact) www.prisonadvice.org.uk The Prison Advice and Care Trust (Pact) yn sefydliad cenedlaethol sy'n cynrychioli anghenion teuluoedd y mae carchar yn effeithio arnynt.

 

 

Adnoddau