Beth mae disgwyl i Ysgol Gyfan ei wneud?
Rolau o fewn yr ysgol
1. Llywodraethwr Cyswllt ADY a Chynhwysiad
Y Llywodraethwr sydd yn:
- Sicrhau fod gan yr ysgol fewnbwn gan Gydlynydd Ysgol/Clwstwr â chyfrifoldeb dros gydlynu darpariaeth ar gyfer ADY a Chynhwysiad.
- Cadarnhau bod gan yr ysgol bolisi ADY a Chynhwysiad a’i fod yn cael ei adolygu’n flynyddol.
- Bod yn gyfarwydd gyda pholisi ADY a Chynhwysiad yr ysgol, Cod Ymarfer ADY Cymru a bod yn ymwybodol o fentrau ADY yn genedlaethol ac yn lleol, gan Lywodraeth Cymru, Consortiwm Rhanbarthol a’r Awdurdod Lleol.
- Cyfarfod bob tymor, trwy apwyntiad, gyda’r Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADY a Chynhwysiad i drafod cynnydd ac effeithlonrwydd y polisi ADY a Chynhwysiad (yn unol â pholisi Ymweliadau Llywodraethwyr i Ysgolion).
- Gweithio gyda’r llywodraethwr cyswllt amddiffyn plant (os yn briodol).
- Deall sut y mae’r ysgol yn adnabod disgyblion ag ADY a Chynhwysiad a beth sy’n digwydd unwaith y bydd disgybl wedi’i adnabod;
- Bod yn ymwybodol o’r cynnydd y mae disgyblion unigol gydag ADY yn ei wneud.
- Bod yn ymwybodol o’r gyllideb sydd ar gael i ADY a Chynhwysiad yn yr ysgol a monitro ei ddefnydd effeithiol.
- Adrodd, yn flynyddol o leiaf, i’r corff llywodraethu ar weithrediad ac effeithlonrwydd polisi ADY a Chynhwysiad yr ysgol, heb drafod manylion disgyblion unigol.
- Ysgrifennu, neu helpu i ysgrifennu, gwybodaeth ADY a Chynhwysiad ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni
- Sicrhau bod adran yn llawlyfr yr ysgol ar ddarpariaeth ADY a Chynhwysiad.
- Diweddaru gwybodaeth ADY a Chynhwysiad trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol i lywodraethwyr sy’n cael eu rhedeg gan yr Awdurdod Lleol.
2. Pennaeth (Person Cyswllt ADYaCh ym mhob ysgol)
Mae’r Pennaeth yn gyfrifol am:
- Sicrhau ethos cynhwysol ar lefel ysgol gyfan.
- Sicrhau fod ethos dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu rheadru drwy’r ysgol gyfan ar gyfer personoli’r profiad addysgol.
- Sicrhau fod Proffil Un Tudalen yn cael ei greu ar gyfer pob disgybl sydd ar y Gofrestr ADY
- Sicrhau fod systemau’r ysgol yn cyd-fynd â’r gofynion statudol a bod y Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADY a Chynhwysiad yn gweithredu yn unol â’r gofynion yma.
- Sicrhau, ar y cyd efo’r Llywodraethwr Cyswllt ADY a Chynhwysiad a’r Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADYaCh, fod Polisi ADY a Chynhwysiad yr ysgol yn cael ei diweddaru yn flynyddol.
- Sicrhau perchnogaeth a dealltwriaeth o ADY a Chynhwysiad ar draws yr ysgol.
- Sicrhau fod cynnydd disgyblion gyda ADY a Chynhwysiad yn cael ei fonitro a’i fesur.
- Sicrhau fod defnydd o brofion safonedig, yn unol â’r meini prawf, i asesu cyrhaeddiad disgyblion yn rheolaidd. Arfer dda fyddai gwneud hyn ddwywaith y flwyddyn.
- Sicrhau fod yna brosesau sganio clir yn bodoli er mwyn adnabod disgyblion a all fod ag ADY a Chynhwysiad yn fuan, fel bod modd ymyrryd yn gynnar.
- Sicrhau defnydd effeithiol, effeithlon a phriodol o’r cyllid datganoledig ADY a Chynhwysiad er mwyn targedu’r plant sydd angen ymyrraeth.
- Sicrhau fod systemau yn eu lle i’r Athrawon Dosbarth rannu gwybodaeth gyda’r Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADY a Chynhwysiad.
- Sicrhau fod ansawdd y dysgu, y gwahaniaethu a’r asesu ar draws yr ysgol yn uchel.
3. Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)
Mae’r unigolyn yma â chyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer pob ysgol i:
- Defnyddio prosesau mapio darpariaeth er mwyn sicrhau fod darpariaeth ADY ysgol gyfan yn cynnig y defnydd gorau o adnoddau.
- Sefydlu a gweithredu systemau o sgrinio ac adnabod ADY, fel bod modd ymyrryd yn gynnar.
- Sicrhau fod gofynion addysgu bob disgybl efo ADY yn cael eu cyfarch trwy fonitro gwaith y staff dysgu a’r cymorthyddion yn rheolaidd.
- Hyrwyddo cynhwysiad o fewn lleoliadau addysgol.
- Creu perthynas bositif ac agored gyda rhieni disgyblion ADY.
- Ffynhonnell o arbenigedd ADY drwy ddatblygu sgiliau arbenigol a gwybodaeth.
- Hyfforddi staff ysgolion gan gynnwys athrawon a chymorthyddion.
- Cyfrannu i Gynllun Datblygu Ysgol a Hunan Arfarniadau.
- Adrodd ar ansawdd ADY o fewn yr ysgol i’r Llywodraethwyr a’r Pennaeth/ Uwch Dîm Rheoli.
- Ymwybyddiaeth glir o Feini Prawf yr A.Ll. a’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi’r ysgol.
- Cyfrannu i ddatblygiad gweithdrefnau gan gynnwys cynllunio cyllidol strategol a chasglu a dehongli data.
- Asesiad a’r defnydd o CDU gan ddefnyddio’r dulliau sy’n canolbwyntio ar unigolion.
- Sicrhau'r defnydd priodol o drefniadau’r A.Ll. wrth geisio osgoi anghytundebau.
- Gwella eu dysgu proffesiynol eu hunain drwy gysylltu efo’r cydlynwyr eraill er mwyn datblygu a rhannu profiadau ac arfer da.
- Cryfhau trefniadau ar gyfer cyfnodau trosiannol.
- Yn adnabod anghenion y disgyblion ADY yn yr ysgol gan gydlynu casglu gwybodaeth ar gyfer ffurfio CDU.
- Ymgymryd â rôl arweiniol o ran dosbarthiad cymorthyddion ar lefel clwstwr o ysgolion o ganlyniad i drafodaethau Fforymau ADY.
4. Athrawon Dosbarth/Pwnc
Mae angen i bob athro/awes:
- Cymryd rhan allweddol yn nhrefniadau asesu, sgrinio a monitro cynnydd disgyblion gyda ADY a Chynhwysiad.
- Sicrhau fod yr awyrgylch ddysgu yn gynhwysol a chroesawgar.
- Cymryd y cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus gan fachu ar gyfleon i fynychu a defnyddio hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig o fewn y maes ADY a Chynhwysiad.
- Cwblhau ac addasu agweddau perthnasol o’r Proffil Un Tudalen o fewn Cynllun Datblygu Unigol y disgybl.
- Gwneud defnydd effeithiol o adnoddau parod ac adnoddau dynol sydd ar gael i gefnogi’r dysgu.
- Cymryd rôl allweddol yng nghynllunio targedau’r disgyblion o fewn y Cynllun Gweithredu (Cynllun Addysg Unigol).
- Dilyn arweiniad ac argymhellion sydd yn cael eu cynnig gan wasanaethau arbenigol yr A.Ll.
5. Cymorthyddion ac Anogwyr Dysgu
Mae angen i bob cymhorthydd:
- Dilyn arweiniad yr Athro/awes dosbarth er mwyn diwallu anghenion disgyblion.
- Bod yn ymwybodol o dargedau disgyblion o fewn y dosbarth sydd ag ADY a Chynhwysiad.
- Bod yn ymwybodol o ddatblygiad holistaidd y disgybl, er enghraifft, drwy fod yn ymwybodol o’r Proffil Un Tudalen a chyfrannu pan yn briodol.
- Ystyried anghenion disgyblion wrth gynnal gwaith grŵp neu dasgau ffocws.
6. Cyfathrebu â Chartrefi / Partneriaeth Rhieni
Mae gweithio gyda chartrefi a sicrhau cydweithrediad rhieni yn allweddol ar gyfer perthynas lwyddiannus ag unrhyw ddisgybl. Dylai pob ysgol yng Ngwynedd ac Ynys Môn fod yn agored i drafodaeth bob amser ac yn annog rhieni i gysylltu os oes unrhyw beth yn eu pryderu.
Dylai cyfraniad rhieni fod yn rhan angenrheidiol o fonitro ac adolygu cynnydd pob disgybl gyda ADY a Chynhwysiad er mwyn sicrhau darlun cyflawn o’r disgybl. Un ffordd o sicrhau hyn yw drwy gael mewnbwn y rhieni a’r teulu i’r Proffil Un Tudalen, y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ac o fod yn rhan o’r Adolygiad – beth bynnag yw dwysedd yr anghenion.