Anhawster Mynychu Ysgol ar Sail Emosiynol (AMYSE)

Beth ydy AMYSE?

Anhawster Mynychu Ysgol ar Sail Emosiynol 

Mae Anhawster Mynychu Ysgol ar Sail Emosiynol (AMYSE) neu Emotionally Based School Avoidance (EBSA) yn derm eang sy’n cael ei ddefnyddio i gwmpasu a disgrifio carfan o blant a phobl ifanc sy’n profi anhawster sylweddol mynychu ysgol oherwydd ffactorau emosiynol.

Mae ardrawiad AMYSE yn gallu bod yn bell gyrhaeddol ac mae gwaith ymchwil ar y pwnc yn pwysleisio’r angen am adnabyddiaeth ac ymyrraeth gynnar.  

Mae’r adnoddau isod wedi eu creu gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg er mwyn cynorthwyo unigolion, teuluoedd ac Ysgolion, ac wedi eu selio ar y dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf sy’n gysylltiedig â deilliannau cadarnhaol.

 

Adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc

 

Adnoddau ar gyfer teuluoedd

 

 

*Hoffem ddiolch i Wasanaeth Seicoleg Addysg West Sussex am eu caniatâd i ddefnyddio eu hadnoddau fel ysbrydoliaeth, yn ogystal â EdPsychEd a’u cwrs EBSA Horizons.*