Cyflogi Plant - Trwyddedau Gwaith
Rhaid i chi gael trwydded cyflogi plentyn os ydych am gyflogi plentyn. Mae’n anghyfreithlon cyflogi plentyn o dan 13 oed, ac mae cyfyngiadau’n weithredol nes eu bod yn cyrraedd oedran gadael yr ysgol.
Yn ôl y gyfraith, mae plentyn yn gyflogedig os yw ef neu hi yn cynorthwyo mewn masnach neu alwedigaeth sy’n cael ei gynnal ar gyfer gwneud elw – os yw’r plentyn yn derbyn unrhyw daliad neu wobr am y gwaith hwnnw ai peidio. Gall rhiant gael ei ystyried i fod yn gyflogwr.
- Mae’n anghyfreithlon cyflogi plentyn o dan 13 oed. Ni allwch wneud cais am drwydded cyn i’r plentyn gael ei ben-blwydd / ei phen-blwydd yn 13 oed.
- Mewn mathau penodol o waith yn unig y gellir cyflogi plant.
- Ni chaiff unrhyw blentyn weithio unrhyw bryd rhwng 7pm a 7am.
- Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol.
- Rhaid i blentyn sy’n gweithio am 4 awr gael seibiant am o leiaf 1 awr.
- Mae niferoedd gwahanol o oriau gwaith yn cael eu caniatáu ar gyfer plant 13/14 oed a phlant 15/16 oed.
- Ni chaiff unrhyw blentyn weithio mwy na 2 awr ar ddydd Sul.
Pamffledi gwybodaeth am gyflogi plant a thrwyddedau gwaith
Cyflogi Plant - Llywodraeth Cymru - Rheolau a'r rheoliadau ar pryd mae angen trwydded waith ar blant 13 i 16 oed
Gwybodaeth i Rieni plant sy'n gweithio rhan amser - Mae’r daflen hon yn egluro’r rheoliadau cyfreithiol mewn perthynas â gweithwyr rhan amser sy’n dal o oedran ysgol orfodol
Canllawiau i Gyflogwyr - Cyflogi Plant oed ysgol yn rhan amser - Mae’r daflen hon yn egluro’r rheoliadau cyfreithiol tuag at weithwyr rhan amser o oedran ysgol gorfodol
Canllaw i blant a phobl ifanc sydd eisiau gweithio rhan amser
Gwybodaeth i blant a phobl Ifanc - Mae’r daflen hon yn egluro’r rheoliadau cyfreithiol tuag at weithwyr rhan amser o oedran ysgol gorfodol
Sut yw i'n gwneud cais am drwydded waith?
Os bydd angen trwydded waith, bydd angen ichi lenwi ffurflen gais sydd ar gael gan eich awdurdod lleol, drwy'r linc isod
Ffurflen Gais i Gyflogi Plant - Gwynedd a Môn
Ymholiadau – 01286 679 007
Dychweler y Ffurflen Gais at: Rhonwen Jones, Adran Addysg, Cyngor Gwynedd, Plas Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH