Llais y Plentyn - cyfranogiad plant a phobl ifanc

Mae'r system ADY yn rhoi lle canolog i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr yn y broses o gynllunio'r gefnogaeth sy’n ofynnol i'w galluogi i ddysgu'n effeithiol a chyflawni eu potensial -  ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Trwy gefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon, gellir eu helpu i:

  • deimlo’n hyderus bod pobl yn gwrando ar eu safbwyntiau, eu dymuniadau a’u teimladau ac yn eu gwerthfawrogi, hyd yn oed os yw’n anodd iddynt eu mynegi;
  • bod yn ymwybodol o’u hawliau, a’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt; a
  • datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb am eu dysgu a rheolaeth drosto.

O ganlyniad i hyn, mae anghenion plentyn neu berson ifanc yn fwy tebygol o gael eu hadnabod yn gywir a’r ddarpariaeth y penderfynir arni i’w diwallu yn fwy tebygol o fod yn effeithiol. Dylai hyn, yn ei dro, arwain at well canlyniadau i’r plentyn neu’r person ifanc.

 

Beth yw clywed Llais y Plentyn? - cyflwyniad i rieni a theuluoedd

 

RAZOR VIEW ERROR
Path: /SiteElements/Razor/FfeiliauADYaCh.cshtml
Error: The remote server returned an error: (500) Internal Server Error.