ELSA Cymorthyddion Llythrennedd Emosiynol
Rhaglen ELSA (Emotional Literacy Support Assistant)
Beth ydi ELSA?
Mae'r rhaglen ELSA yn fenter genedlaethol a ddyluniwyd i helpu ysgolion i fodloni anghenion disgyblion sy'n fregus yn emosiynol o fewn eu hadnoddau eu hunain. Caiff hyn ei gyflawni drwy hyfforddi cymhorthyddion dysgu i gynllunio a chynnal rhaglenni ymyrraeth unigryw i gyfarfod anghenion emosiynol disgyblion yn eu gofal. Mae’n rhaglen sy’n adnabod bod plant yn dysgu yn well ac yn hapusach yn yr ysgol os yw eu hanghenion emosiynol yn cael eu bodloni.
Cafodd y rhaglen ei greu a’i ddatblygu, gan Seicolegwyr Addysgol. Mae’n parhau i gael ei arwain gan Seicolegwyr Addysgol o fewn Awdurdodau Lleol yn ogystal â’r Seicolegwyr Addysgol sydd ar Fwrdd Rheoli’r Rhwydwaith ELSA Genedlaethol. Mae’n rhaglen gyda thystiolaeth ymchwil gadarn tu cefn iddo ac mae ar waith mewn ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae'r hyfforddiant chwe diwrnod cychwynnol yn rhoi dealltwriaeth seicolegol sylfaenol i gymhorthyddion dysgu gallu adnabod a deall y prif anghenion sy'n sail i ddatblygiad emosiynol iach mewn plant.
Yr hyn sy’n gwneud ELSA yn rhaglen unigryw yw’r ffaith fod y cymhorthyddion dysgu yn parhau i dderbyn goruchwyliaeth glinigol gyson gyda’r tîm Seicoleg Addysgol wedi i’r chwe diwrnod hyfforddiant cychwynnol ddirwyn i ben. Mae hyn yn eu galluogi i ddatblygu eu dealltwriaeth, eu sgiliau a'u hymarfer ymhellach gan roi gofod cefnogol iddynt adlewyrchu ar ansawdd a phriodoldeb y cymorth y maent yn ei gynnig.
Beth mae ELSAs yn ei wneud mewn ysgol?
Mae ELSAs yn cynllunio, cynnal a gwerthuso ymyraethau ar gyfer disgyblion sy’n profi anghenion emosiynol a chymdeithasol. Mae ymyrraeth ELSA yn unigryw i bob disgybl ac yn targedu datblygiad yn un o’r meysydd canlynol:
- Dealltwriaeth Emosiynol – dysgu i adnabod a labelu emosiynau
- Gallu i reoleiddio emosiynau - gallu ymdopi gydag emosiynau fel gor-bryder, tymer neu dristwch er enghraifft
- Sgiliau Cymdeithasol a Chyfeillgarwch
- Hunan-barch/Hunanwerth
- Sgiliau i ymdopi gyda cholled a galar
Fel arfer, bydd ymyrraeth yn para rhwng hanner tymor ac un tymor cyfan. Bydd yr ELSA yn gweithio ar darged llythrennedd emosiynol penodol sydd wedi ei adnabod fel un perthnasol i’r disgybl dan sylw. Dylai’r broses o lunio targed ddigwydd ar y cyd gyda’r athro dosbarth/cydlynydd.
Mae mwyafrif y gefnogaeth yn unigol ac yn adeiladu ar y berthynas o ymddiriedaeth a ddatblygir rhwng y disgybl a'r cymhorthydd ELSA. Bydd rhai sgiliau yn cael eu hymestyn drwy wneud gwaith mewn grwpiau bychan, yn enwedig sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch (er y bydd rhai plant angen cefnogaeth unigol i ddechrau).
Beth sydd gan Ysgolion i ddweud am weithredu’r rhaglen?
Mae'r fideo isod yn trafod:
- Sut mae’r disgyblion yn cael eu hadnabod?
- Sut ydych yn mesur cynnydd?
- Beth sydd wedi gweithio’n dda / Beth sydd heb weithio gystal?
- Sut mae’r ysgol wedi eich cefnogi?
- Pa effaith ydych chi wedi ei weld ar y disgyblion?
- Sut mae ELSA yn wahanol / yn cyd-fynd gyda rhaglenni ymyrraeth arall?
Diolch i:
Ysgol Pen-y-Bryn, Bethesda
Ysgol Dyffryn Ogwen
Ysgol Corn Hir
Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Gwynedd ac Ynys Môn
Rhwydwaith ELSA.
Pa ysgolion Gwynedd a Môn sy’n cynnig Ymyrraeth ELSA?
Yn ogystal â mynychu’r chwe diwrnod o hyfforddiant cychwynnol gyda'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, er mwyn derbyn achrediad blynyddol fel ELSA mae disgwyl i gymhorthyddion
- Fynychu goruchwyliaeth gyda Seicolegydd Addysgol yn rheolaidd (oleiaf 4 sesiwn y flwyddyn)
- Gyflwyno Astudiaeth Achos yn flynyddol i arddangos eu hymarfer cyfredol.
Rydym yn falch iawn fod dros 80 o ELSAs wedi ei achredu yn gweithredu yn ein hysgolion eleni (2023-2024), gyda dros 50 yn gweithio tuag at eu hachrediad.
Dyma restr lawn o’r ysgolion sy’n cynnig ymyrraeth ELSA:
Rhestr Ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn gyda ELSA wedi Achredu (2024)
Sut all fy mhlentyn dderbyn ymyrraeth ELSA?
Ysgolion sy’n gyfrifol am flaenoriaethu disgyblion i dderbyn ymyrraeth ELSA am eu bod yn gweld yr angen o fewn yr ysgol.
Mae croeso i chi drafod unrhyw bryderon gydag athro dosbarth eich plentyn neu gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol er mwyn helpu’r ysgol gyda’r broses flaenoriaethu.
Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen i’w gael yma: