Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd
Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Gwynedd a Môn i blant
Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn darparu gwasanaethau sy’n seliedig ar dystiolaeth, sy’n rhagweld ac yn ymateb i anghenion iaith, lleferydd, cyfathrebu a / neu lyncu unigolion. Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r unigolion yma, eu teuluoedd, ac asiantaethau eraill, i leihau effaith eu hanawsterau ar eu lles, a’u gallu i gymryd rhan yn eu bywyd bob dydd.
Therapyddion Iaith a Lleferydd yw’r arbenigwyr arweiniol yn maes anhwylderau cyfathrebu a llyncu. Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn arwain yr asesu, rhoi deiagnosis gwahaniaethol, a rheoli ymyrraethau (mewnbwn / cefnogaeth) unigolion efo anhwylderau iaith, lleferydd, cyfathrebu a llyncu. (Coleg Brenhinol Therapi Iaith a Lleferydd)
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'n gwefan os gwelwch yn dda: https://bipbc.gig.cymru/TILL
Cyfeirio Plant
Mae gennym bolisi 'cyfeirio agored' ac rydym yn derbyn cyfeiriadau gan rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Caiff cyfeiriadau eu brysbennu gan therapyddion iaith a lleferydd cymwys a all gysylltu â chyfeirwyr am fwy o wybodaeth os oes angen. Yn unol â pholisi BIPBC, bydd gofyn i rieni a gofalwyr gysylltu â ni i gytuno ar apwyntiad.
I wneud cais am ffurflen gyfeirio, cysylltwch â’r adran ar 03000 851 758 neu dros e-bost ar BCU.SALTReferralsWest@wales.nhs.uk. Gellir anfon y ffurflen gyfeirio drwy’r post neu dros e-bost.
Cwblhewch y ffurflen gyfeirio papur a'i hanfon at: Adran Therapi Iaith a Lleferydd, Bodfan, Ysbyty Eryri, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YE.
Neu, gallwch ei hanfon dros e-bost ar: BCU.SALTReferralsWest@wales.nhs.uk.
Llinell Gymorth Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant - Gwynedd a Môn
Os hoffech drafod unrhyw blentyn, mae croeso i chi gysylltu â’r ardran Therapi Iaith a Lleferydd trwy gysylltu â’r Llinell Gymorth
Rhif ffôn 03000 850063
Dydd Mawrth 11:30 – 13:30 y.p - Dydd Iau - 14:00 – 16:00 y.p.