Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn y Blynyddoedd Cynnar
Pamffled Wybodaeth - Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn y Blynyddoedd Cynnar
Beth ydi dulliau sydd yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn i greu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)?
Rydym yn defnyddio ffordd arbennig o gynnal cyfarfod i gasglu gwybodaeth am y disgybl sy’n cael ei alw yn ddulliau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, i gynllunio’r ddarpariaeth ar gyfer plant. Mae’r math yma o gyfarfod yn fwy anffurfiol ac yn rhoi cyfle i bawb gael rhoi eu barn ar beth sy’n gweithio ac ddim yn gweithio i’r plentyn a'r teulu, a beth sydd yn bwysig iddynt.
Mae'r fideo isod yn esbonio beth yw Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn:
O dan y Ddeddf ADY newydd mae pob plentyn gydag ADY sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) efo’r hawl i dderbyn yr un cynllun statudol - sef y CDU.
- Mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn gynllun statudol sydd yn cael ei roi yn ei le yn dilyn penderfyniad bod gan blentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY)
- Mae’r CDU yn cynnwys disgrifiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) a roddir yn eu lle i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol y plentyn.
Mae’n bwysig iawn bod pawb sy’n gweithio efo’r plentyn yn cymryd rhan yn y cyfarfod i greu CDU fel ein bod yn darganfod be sy’n bwysig i’r disgyblion. Mae yna lawer o ffyrdd y gall plentyn gymryd rhan. Wrth wneud hyn byddwn yn creu CDU personol iawn i’r plentyn. Byddwn yn gwneud hyn drwy siarad efo’r teulu, a chytuno sut yw’r ffordd orau i flaenoriaethu a darparu’r gefnogaeth.
Mae’r adolygiadau yma yn rhoi’r plentyn yn y canol, gan edrych ar yr hyn sy’n gweithio ac sy ddim yn gweithio, a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Bydd yr holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr efo’r Meini Prawf i greu cynllun gweithredu sy’n wirioneddol unigol ac effeithiol ar eu cyfer. Mae’r dull yma o ddeall anghenion plentyn yn berthnasol i bob plentyn nid yn unig y rhai efo ADY. Mae cyfranogiad yn ymwneud â gwrando ar blant a phobl ifanc, a rhoi ystyriaeth lawn i'w safbwyntiau.
Mae pob rhan o’r CDU yn bwysig wrth adolygu cynnydd plant. Er mwyn defnydd dydd i ddydd o’r CDU mae'n sicrhau fod staff yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymyraethau disgyblion gydag ADY. Disgwylir eu bod yn ddogfennau electroneg byw sydd yn cael eu haddasu yn ôl yr angen.