Coronafirws - Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

Dyma wefan y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol am Coronafirws. Wrth ystyried y sefyllfa bresennol o amgylch y Coronafirws, prif bwrpas y tudalennau hyn fydd rhannu syniadau a chynnig cymorth i helpu plant a phobl ifanc, teuluoedd, staff ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru'r tudalennau hyn drwy gydol y dyddiau, wythnosau a misoedd nesaf felly cofiwch ddod yn ôl i ymweld. Byddwn hefyd yn rhannu diweddariadau a gwybodaeth o'n cyfrif Trydar @seicolegol. Arhoswch yn ddiogel ac yn iach, gan holl seicolegwyr addysg Gwynedd a Môn.

Cefnogi Trosglwyddo a Mynd yn ôl i'r Ysgol - Mae’r adran hon yn darparu Cyngor ac arweiniad gan Wasanaeth Seicoleg Addysgol - Gwynedd a Môn ar Drosgwlyddo a Mynd yn ôl i’r Ysgol wedi Coronafirws (COVID-19).

Cefnogi Plant yn ystod Hunan Ynysu - Cyngor ac arweiniad i deuluoedd. Nod y ddogfen arweiniol yma gan eich gwasanaeth seicoleg addysgol lleol yw i helpu rhieni a gofalwyr i ennyn profiadau cadarnhaol tra’n hunan-ynysu gyda eu plant. Mae'r ddogfen yn cynnig cyngor defnyddiol ac adnoddau y gellir ei ddefnyddio gan deuluoedd yn ystod hunan ynysu i gefnogi addysg ac iechyd meddwl.

Camdriniaeth Domestig yn ystod Hunan Ynysu - Cyngor ac arweiniad i deuluoedd. Pwrpas y ddogfen hon gan eich gwasanaeth seicoleg addysgol lleol yw cyfeirio’r gefnogaeth sydd ar gael, a darparu eglurder i deuluoedd. Yn y ddogfen hon, rydym yn anelu at ddarparu cyngor ac adnoddau defnyddiol ar gyfer teuluoedd sydd wedi profi camdriniaeth domestig.

Dyma fideo rydym wedi ei greu efo syniadau ar gyfer cefnogi eich lles yn ystod y cyfnod yma.

 

Ewch i’r tudalennau canlynol am ragor o wybodaeth: