Coronafirws - Plant a phobl ifanc
Mae llawer o sôn am y Coronafirws ar hyn o bryd. Mae’n debygol byddwch wedi clywed llawer o sôn am dano yn yr ysgol ac ar y newyddion a gall rhai o’r pethau rydych yn eu clywed swnio’n frawychus neu yn ddryslyd. Dyma’r tro cyntaf i rywbeth fel hyn ddigwydd i bob un ohonom felly mae’n gwbl naturiol i deimlo yn bryderus o’i gwmpas. Rydym wedi ychwanegu ychydig o wybodaeth isod a syniadau defnyddiol gallwch ei wneud i ofalu amdanoch eich hun ac eraill.
Mae’r Coronafirws yn rhywbeth newydd i ni gyd ac mae’n naturiol i ni boeni, mae'r rhain yn deimladau gwbl arferol. Mi all darllen gormod am y firws a chael gwybodaeth o ffynonellau megis cyfryngau cymdeithasol a rhai erthyglau wneud i ni boeni fwy. Gallwn ni leihau'r teimladau hyn gan sicrhau ein bod yn cael gwybodaeth gywir o ffynonellau priodol:
Dyma rhai o’r pethau gall ein helpu i edrych ar ôl ein hunain
- Lleihau faint o amser rydym yn ei wario ar gyfryngau cymdeithasol; gall gormod o amser ar gyfryngau cymdeithasol arwain at gynyddu teimladau o bryder a dod ar draws gwybodaeth sydd ddim yn ffeithiol.
- Trio cadw at rwtîn/creu amserlen newydd: mae’n debyg bod ein diwrnod yn edrych yn eithaf gwahanol rŵan. Gall hyn olygu creu amserlen neu restr o weithgareddau i wneud ein helpu i ymdopi hefo’r newidiadau hyn.
- Cynhwysion amserlen: fideo ymarfer corff (mae llawer o’r rhain i’w cael am ddim ar y we megis Ray Carpenter o Ffit Cymru a Joe Wicks ‘Bodycoach’), darllen, gweithgareddau crefft, celf, gwrando a chreu cerddoriaeth, chwarae gemau ac unrhyw hobi sydd gennych, ond yn bwysicaf oll, cael hwyl!
- Ydych chi wedi gwneud sesiynau meddylgarwch yn yr ysgol? Neu eisiau rhoi cynnig arni? Mae ‘dotbschools’ yn cynnig sesiynau eistedd i mewn/ ‘sit in’ meddylgarwch bob bore: https://mindfulnessinschools.org/misp-sit-together/
- Gweithgaredd/ Dyddiadur 3 peth da: Mae hwn yn weithgaredd hawdd a braf i wneud ar ben eich hun neu fel teulu. Mae ymchwil yn awgrymu bod y gweithgaredd syml hwn yn gallu codi lefel hapusrwydd a chefnogi lles emosiynol. Cafodd y gweithgaredd ei datblygu gan Martin Seligman sydd yn enwog am ddechrau a datblygu ymchwil yn y maes seicoleg gadarnhaol (positive psychology). Gwyliwch y fideo isod: