Pecyn Lles Uwchradd - Gwasanaeth Seicoleg Addysgol
Mae'r adnoddau isod yn addas ar gyfer oedran Uwchradd
1. Pecyn Adnoddau Lles
- Pecyn Adnoddau Lles - Mae hi wedi dod yn amlwg bod llawer o bobl ifanc yn ogystal ag oedolion yn wynebu sawl her i'w lles.
Dyluniwyd y pecyn adnoddau hwn i gynnig cyngor a gweithgareddau defnyddiol ynghyd â chyfeirio at adnoddau eraill a allai fod o gymorth. Rhan 1 Ymdopi â Straen ac Emosiwn, Rhan 2 Newidiadau Ffordd o Fyw, Rhan 3 Gweithgareddau, Rhan 4 Adnoddau Defnyddiol.
- Fideo Pecyn Adnoddau Lles: https://www.youtube.com/watch?v=YZzXfmD43pc&rel=0
2. Straen a Gorbryder
- Llyfr Gwaith Lleihau Gorbryder - Yn y llyfr gwaith hwn gan wasanaeth Seicoleg Addysg Gwynedd & Môn, ein nod yw cefnogi lles staff addysgol, gofalwyr neu bobl ifanc. Gorbryder. Rydyn ni i gyd yn cael profiad o bryder ar ryw adeg mewn bywyd ac mae'n ymateb naturiol i lawer o sefyllfaoedd rydyn ni'n dod ar eu traws. Yn anffodus gall llawer o bobl gael pryder ychydig yn rhy aml ac weithiau mae'n amharu ar wneud pethau. Yn y llyfr gwaith hwn, byddwn yn esbonio pam ein bod yn teimlo'n bryderus ac yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar yr hyn y gallwn ei wneud i helpu i leihau ein pryder dros amser.
- Fideo Straen a Gorbryder: https://www.youtube.com/watch?v=cWNcIIc7tTA
3. Meddylgarwch: