Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar
Pwy yw Blynyddoedd Cynnar?
Plant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?
Pan gaiff ei ddwyn i sylw’r Awdurdod Lleol y posibilrwydd fod gan blentyn yn y Blynyddoedd Cynnar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), rhaid i’r Awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn ADY ai pheidio. Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar sydd yn cydlynu’r trefniadau er mwyn caniatáu Awdurdod Lleol wneud y penderfyniad.
Sut mae cyfeirio plentyn yn y Blynyddoedd Cynnar i’r Awdurdod Lleol?
Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
- Cefnogi lleoliadau Blynyddoedd Cynnar i ddarparu darpariaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
- Darparu arweiniad a hyfforddiant penodol i leoliadau Blynyddoedd Cynnar ac hynny yn eu caniatáu i gynllunio’n effeithiol ar gyfer ymateb i anghenion plant
- Cyflwyno ymyraethau ag adnoddau sydd wedi’u teilwra ar gyfer beth mae plentyn ei angen.
Mae’r gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn gweithio efo rhieni, lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill i wneud yn siŵr bod pob plentyn ag ADY yn:
- Derbyn yr un cyfleoedd yn union â’u ffrindiau.
- Datblygu sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnyn nhw.
- Cyflawni eu potensial a datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol.
- Elwa o wasanaeth arbenigol sy’n ymateb i anghenion addysgol y plentyn.
- Yn cael ei addysgu mewn awyrgylch sy’n hybu cynhwysiad addysgol.
- Derbyn cefnogaeth addas ac amserol.
Pwy ydi’r tîm?
Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar |
Ellen Jones
|
Athrawon Arbenigol |
Catrin Williams
|
Bethan Dixon
|
Ffion Lovgreen
|
Awen Jones
|
Sarah Elliott
|
Uwch Gymorthyddion Arbenigol |
Sarah Elliott
|
Cymorthyddion Arbenigol |
Dawn Parry
|
Karen DeWaart
|
Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn gweithio’n agos gyda:
- Gwasanaeth Nam Synhwyraidd
- Gwasanaeth Corfforol a/neu Meddygol
- Gwasanaeth ABC
- Athrawon ymgysylltiol Cyfnod Sylfaen a Dechrau’n Deg
- Gwasanaethau Arbenigol Plant (Derwen a GAP)
Beth yw rôl y Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar?
- Cynnig canllawiau, cyngor a chymorth i sector y blynyddoedd cynnar i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel
- Darparu hyfforddiant i leoliadau blynyddoedd cynnar ar faterion sy'n ymwneud ag ADY, gan ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill lle y bo'n briodol a chynnig mewnbwn arbenigol
- Hyrwyddo cydweithio effeithiol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, addysg, y trydydd sector a gofal cymdeithasol ynghylch darpariaeth ADY.
- Bod â throsolwg o'r gwaith o gynllunio a dyrannu cyllidebau ar gyfer ADY.
- Darparu cymorth i sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Unigol y Blynyddoedd Cynnar yn cael eu paratoi, eu cynnal a'u hadolygu.
- Sicrhau, lle bo Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn cael ei dyrannu a'i phennu yn y Cynllun Datblygu Unigol, ei bod yn cael ei hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr adnodd yn effeithiol ac yn dystiolaeth o effaith.
- Datblygu systemau i nodi ADY posibl yn gynnar, a rhoi ymyrraeth gynnar a phriodol ar waith er mwyn atal ADY rhag datblygu neu ddwysáu.
- Gweithio gyda thimau ehangach o weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn y blynyddoedd cynnar i ddatblygu gwaith cydweithredol ledled addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.
Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?
Beth yw rôl y lleoliad blynyddoedd cynnar?
- Datblygu awyrgylch dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion ag ADY
- Arsylwi ac asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu’n briodol er mwyn edrych ar anghenion y plant a dewis strategaethau a/ neu ymyraethau sydd eu hangen er mwyn darparu a chefnogi anghenion y plentyn neu blant.
- Defnyddio dogfen tracio ag olrhain cynnydd Blynyddoedd Cynnar os ydy dulliau asesu arferol wedi amlygu angen mewn maes penodol
- Llunio Proffiliau Un Dudalen ar gyfer plant ar yr haen Darpariaeth Gyffredinol wedi’i thargedu
- Darparu ymyraethau a strategaethau ar yr haen Darpariaeth Gyffredinol o ansawdd i bawb o fewn y lleoliad
- Darparu ymyraethau a strategaethau ar yr haen Darpariaeth Gyffredinol wedi’i thargedu ar gyfer plant sydd wedi amlygu angen mewn maes penodol
- Defnyddio dull ymateb graddoledig a choladu tystiolaeth yn unol â gofynion y ddogfen Map Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar
- Cyfeirio plentyn i sylw’r Awdurdod Lleol os ydych chi'n amau fod gan y plentyn ADY
- Mae disgwyl i leoliadau addysg Feithrin helpu’r Awdurdod gyda swyddogaethau ADY mewn perthynas â phlentyn sy’n mynychu’r lleoliad os yw’n cael cais i wneud hynny.
Pwy arall sy’n gallu helpu?