Arsylwi ac Asesu Blynyddoedd Cynnar (ABC)
Beth ydy'r Gwasanaeth ABC?
Mae ABC yn golygu Arsylwi ac Asesu yn y Blynyddoedd Cynnar.
Gwasanaeth gan Awdurdodau Addysg Gwynedd a Môn i blant yn y blynyddoedd cynnar yw’r gwasanaeth ABC. Mae’n rhan o’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADYaCh)
Mae’n wasanaeth ar gyfer plant ifanc y mae’r Panel Cymedroli wedi eu hadnabod fel plant sydd yn debygol o fod gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Canolfan ABC
Mae’r canolfannau ABC yn rhoi cyfle i rai plant oed rhan amser sef y flwyddyn Meithrin, gael eu harsylwi a’u hasesu mewn sefyllfa grŵp bach.
Mae angen asesu manwl er sicrhau y bydd y plant yn cael y gefnogaeth briodol ar gyfer datblygu eu sgiliau a’u hannibyniaeth i’r dyfodol.
Gwasanaeth Ymestyn Allan
Mae’r gwasanaeth ymestyn allan yn rhan annatod o bob tîm ADY gan gynnwys y Tîm ABC.
Mae’r Panel Cymedroli ar sail tystiolaeth yn argymell y byddai'r plant yn elwa o fynychu lleoliad megis dosbarth meithrin mewn Ysgol, Cylch Meithrin neu Feithrinfa ond eu bod yn derbyn mewnbwn gan y tîm ABC.
Mae staff y Tîm ABC yn ymestyn allan i sefydliadau blynyddoedd cynnar er mwyn asesu unigolion, cynghori a chefnogi. Yn ystod y cyfnod ymestyn allan bydd y staff yn gallu cynnig strategaethau syml all helpu unigolion yn ogystal â rhannu adnoddau gweledol.
Mae’r adnoddau yma ar gael i staff yn y blynyddoedd cynnar er mwyn iddynt
- helpu unigolion i ddeall rheolau/disgwyliadau syml mewn dosbarth,
- deall strwythur ‘rŵan’ a ‘wedyn’ sy’n helpu plant ifanc i ddeall trefn y lleoliad.
- Helpu unigolion i ddeall pa ardaloedd sydd ar gael ac sydd hefyd yn eu helpu i wneud dewis.
Yn ystod yr ymestyn allan, anelir at drefnu ymweliad ar y cyd gydag asiantaethau eraill. Rhydd hyn gyfle ar gyfer trafod a gosod argymhellion / targedau.
Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
Dosbarthiadau ABC Gwynedd a Môn
- Gweithio gyda grwpiau bach o blant ar y tro. Mae’r plant hyn wedi cael eu trafod yn y Panel Cymedroli ac wedi cael cynnig lleoliad yn y dosbarth ABC ar sail eu hanghenion dysgu ychwanegol.
- Mae’r Rhieni yn cymryd rhan bwysig iawn yn y penderfyniadau ac mae trafodaethau yn cymryd lle ar hyd y broses.
- Cyflwyno’r grŵp o blant i sefyllfa dosbarth. Paratoi’r plentyn ar gyfer addysg llawn amser.
- Staff sydd wedi arbenigo mewn ystod o anghenion ac sydd yn gyfarwydd ag arsylwi, asesu a hybu sgiliau iaith, chwarae, hunanofal, corfforol a chymdeithasol y plant.
- Cyfleoedd i blentyn ddilyn ei ddiddordebau ei hun a dilyn strategaethau ‘Ga i ymuno hefo chi? Er hyrwyddo sgiliau cyfathrebu cymdeithasol. Defnyddir dulliau dysgu trwy chwarae yn ogystal â gweithredu’r Cyfnod Sylfaen.
- Ymyrraeth gynnar i roi’r cyfleoedd a phrofiadau addas i’r plant o’r cychwyn cyntaf.
- Cyfleoedd cyson i gysylltu â thrafod targedau/strategaethau gyda Rhieni. Defnyddir yr App Class Dojo i wneud hyn yn ogystal â sgyrsiau wyneb yn wyneb.
- Cyfleoedd i drafod a chyd gynllunio gydag asiantaethau megis Therapyddion Iaith a Lleferydd, Nyrs Arbenigol ayyb.
- Mae’n bwysig bod plant yn deall ac yn gallu dilyn trefn y dosbarth. Os yw hyn yn golygu darparu adnoddau gweledol neu ddefnyddio gwrthrychau i’w helpu yna mae’r tîm ABC ar gael i’w cefnogi (gweler rhan adnoddau ABC).
- Cyfle i bob plentyn ddatblygu ar ei lefel ei hun. Mae’r staff ABC yn cefnogi Rhieni wrth weithio ar sgiliau toiledu ac yn darparu rhaglen doiledu / lluniau ac yn newid clytiau yn y dosbarth ABC.
- Mae’r dosbarth ABC yn llunio a gweithredu targedau syml ar gyfer datblygu sgiliau cynnar e.e. toiledu, sgiliau chwarae a chymdeithasu, targedau Iaith a chyfathrebu.
- Mae cyfleoedd i wahanol asiantaethau megis Therapyddion Iaith a Therapyddion Ffysio ddod i’r dosbarth ABC a chefnogi’r plentyn. Mae staff yr ABC yn cydweithio hefo pob asiantaeth sydd yn ymwneud â’r plentyn.
- Mae cyfleoedd i Therapyddion Iaith ymweld ag ysgolion ar y cyd gyda’r Staff ABC er mwyn asesu, darparu targedau ac adnoddau addas ar eu cyfer.
- Bydd Seicolegydd yn ymweld ag yn cynnal trafodaethau i sicrhau darpariaeth hir dymor (Proffil un tudalen / CDU llawn).
- Defnyddir dulliau cyfathrebu aml gyfrwng os yw’r Therapydd Iaith ac Athrawes Y dosbarth ABC yn teimlo y byddai plentyn yn elwa e.e. arwyddo, lluniau, symbolau.
Gwasanaeth Ymestyn Allan ABC Gwynedd a Môn
- Mae holl staff ABC Gwynedd a Môn yn ymestyn allan i leoliadau blynyddoedd cynnar ar draws y ddwy sir yn ystod sesiynau penodol pob wythnos.
- Mae’r plant sydd yn derbyn y mewnbwn ymestyn allan wedi cael eu trafod yn y Panel Cymedroli. Mae’r Panel wedi argymell mewnbwn gan y Tîm ar sail eu hanghenion dysgu ychwanegol.
- Mae cyswllt rheolaidd rhwng aelod o’r Tîm a’r lleoliadau. Mae’r staff yn arsylwi a dod i adnabod unigolion, eu hasesu trwy ddefnyddio asesiadau priodol ar gyfer pob unigolyn e.e. Proffil Tracio ABC. Mae’r Tîm yno i gefnogi plant a staff yn eu gwaith.
- Cynhelir cyfarfodydd yn aml yn y lleoliadau ac mae’r staff ABC yno i gefnogi.
- Pan gyfyd anawsterau mae’r staff yn gallu cydweithio hefo’r lleoliadau er mwyn teilwro strategaethau addas e.e. trosglwyddo adnoddau gweledol ymlaen i’r Ysgol honno.
- Mae’n bwysig bod plant yn deall ac yn gallu dilyn trefn y dosbarth. Os yw hyn yn golygu darparu adnoddau gweledol neu ddefnyddio gwrthrychau i’w helpu yna mae’r tîm ABC ar gael i gefnogi a chynnig syniadau priodol - gweler adnoddau parod y gwasanaeth
- Cyfle i bob plentyn ddatblygu ar ei lefel ei hun, er enghraifft wrth weithio ar doiledu. Mae’r tîm yn gallu cynnig syniadau/adnoddau all hwyluso’r broses toiledu a sgiliau hunan ofal. Gall y strategaethau hyn ac unrhyw adnodd sydd ar gael hefyd gael ei basio i’r rhieni fel bod cysondeb yn null pawb o weithio.
- Wrth ymestyn allan, mae’r tîm yn ymgyrraedd at wneud ymweliadau ar y cyd gyda Therapyddion iaith er mwyn trafod, cyd gynllunio a gosod argymhellion /targedau posib i weithio arnynt. Mae’r targedau hyn wedyn ar gael i bawb weithio arnynt (Ysgol, Cylch, Meithrinfa, Staff ABC yn ystod ymweliadau, â Rhieni).
- Defnyddir dulliau cyfathrebu aml gyfrwng os yw’r Therapydd Iaith ac Athrawes y dosbarth yn teimlo y byddai plentyn yn elwa e.e. arwyddo, lluniau, symbolau
Beth yw oed y plant sydd yn mynychu’r dosbarth ABC?
Plant oed Dosbarth Meithrin sydd yn derbyn lleoliad yn y ganolfan ABC h.y. y flwyddyn ysgol pan fydd y plant yn cael eu pen-blwydd yn 4 oed.
Addysg rhan amser yw’r flwyddyn Meithrin.
Mae’r gwasanaeth ABC yn cyfri fel oriau addysg fel sydd mewn ysgol. Mae plant un ai yn
- mynychu’r dosbarth am 5 sesiwn hanner diwrnod (Dwyfor a Meirionydd ar agor 3 sesiwn yn unig) neu
- yn rhannu lleoliad gyda’r Ysgol Prif Lif.
- Mae pob plentyn yn unigol ac felly nid oes rheolau pendant yn eu lle am faint o amser bydd y plant yn mynychu'r dosbarth ABC. Bydd hyn yn cael ei adolygu yn gyson.
- Derbyn mewnbwn gan y tîm trwy ymestyn allan.
- Panel Cymedroli sy’n gwneud y penderfyniadau hyn.
Sut mae plant yn cael eu cyfeirio at sylw'r Gwasanaeth ADYaCh?
Mae plant yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth gan
- Gweithwyr Iechyd fel Pediatrydd Cymunedol, Ymwelwyr Iechyd, Therapyddion Iaith a Lleferydd
- Gweithwyr Addysg sydd yn gweithio gyda Chylchoedd Meithrin, Athrawon Cysylltiol Cyfnod Sylfaen, Athrawon Dosbarth Meithrin.
Cam Nesaf?
Mae’r wasanaeth ADYaCh yn cyfeirio’r plant i sylw’r Uwch Athrawes, Athrawon Arbenigol a’r Seicolegydd Addysg sy’n ymwneud â’r Gwasanaeth ABC. Yn dilyn hyn, mae trefniadau mewn lle i drefnu i gyfarfod â'r rhieni a thrafod datblygiad eu plant gydag Athrawes y Ganolfan ABC a Seicolegydd Addysg Blynyddoedd Cynnar.
Cam Wedyn?
Mae’r plentyn yn cael ei drafod mewn Panel Cymedroli sy’n ystyried pob cais yn unigol cyn dod i benderfyniad ar sail y dystiolaeth sydd wedi dod i law.
Y Panel Cymedroli sydd yn argymell lleoliad mewn canolfan ABC, rhannu lleoliad gydag Ysgol, lleoliad arbennig neu leoliad mewn Ysgol, Cylch neu Feithrinfa gydag ystyriaeth am fewnbwn ymestyn allan.
Pwy ydi’r tîm?
Uwch Athrawes Arbenigol |
Einir Rees Jones
|
Athrawon Arbenigol |
Sioned Rhys Griffiths
|
Delyth Roberts
|
Nia Wyn Evans
|
Bethan Haf Hughes
|
Uwch Gymorthyddion Arbenigol |
Sarah Elliott
|
Sam Hughes
|
Cymorthyddion Arbenigol |
Wendy James
|
Jade Hayes-Hallsworth
|
Sian Buckley Jones
|
Alison Jones
|
Emma Dryhurst
|
Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?
Mae gwahanol Seicolegydd Addysgol yn gweithio hefo’r gwanhaol Ganolfannau ABC.
Mae cydweithio agos yn cymryd lle hefo Seicolegydd Addysgol. Maent yn dod i’r dosbarth ABC er mwyn dod i adnabod y plant, cynnig syniadau a strategaethau ac yn cyfrannu tuag at y cyfarfodydd Cynllun Datblygu Unigol (CDU).
Beth yw rôl y Swyddog Ansawdd?
Mae cyswllt agos rhwng y gwasanaeth ABC a’r Swyddog Ansawdd dynodedig.
Mae’r Swyddog Ansawdd ar gael i hwyluso a chydlynu trosglwyddiad plentyn o’r dosbarth ABC i’r Ysgol.
Beth yw rôl yr ysgol neu leoliad blynyddoedd cynnar?
Mae cyswllt agos rhwng y gwasanaeth ABC ac Ysgol neu leoliad blynyddoedd cynnar y plentyn, er mwyn sicrhau llwybr addysgol llwyddiannus a throsglwyddiad llyfn i addysg llawn amser.
Mae staff y lleoliadau blynyddoedd cynnar yn gallu ymweld â’r dosbarth ABC unrhyw adeg er mwyn dod i adnabod y plant ac maent yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd Cynllun Datblygu Unigol (CDU) neu gyfarfod Proffil Un Tudalen.
Mae’r lleoliad a’r dosbarth ABC yn casglu gwybodaeth am ddatblygiad y plentyn er mwyn gallu cyfrannu i gyfarfodydd gyda rheini.
Pwy arall sy'n gallu helpu?
Mae cyswllt agos rhwng Athrawes y Canolfannau ABC a Therapyddion Iaith a Lleferydd er mwyn sicrhau bod asesu a thargedau addas yn cael eu darparu ar gyfer pob plentyn.
Mae cyswllt agos rhwng Athrawes ABC ac asiantaeth sydd yn gweithio gyda’r plentyn a’u teuluoedd e.e. DERWEN, Tîm IMPACT.
Beth fedrwch chi wneud gartref?
Mae cyswllt rheolaidd gyda’r Athrawes ABC yn holl bwysig er mwyn sicrhau bod pawb yn gwneud yr un peth e.e. gweithio ar yr un targedau megis sgiliau toiledu.
Mae’r dosbarthiadau ABC yn defnyddio cyswllt wyneb yn wyneb, ffôn neu Ap ClassDojo er mwyn cysylltu hefo’r rhieni.
Pwrpas yr App Class Dojo yw
- Cofnodi rhai o’r gweithgareddau y mae’r plentyn wedi ei fwynhau yn ystod yr wythnos,
- Nodi unrhyw ddatblygiad pwysig.
- Nodi beth sy’n gweithio
- Nodi beth sydd ddim yn gweithio.
- Nodi unrhyw ddamwain sydd wedi digwydd.
- Mae lluniau yn cael eu rhoi ar y ClassDojo yn achlysurol hefyd.
- Bydd cyfle i rieni gofrestru i Ap ClassDojo fel bod yr athrawes yn gallu rhannu negeseuon, gwybodaeth bwysig a pherthnasol, fideos, lluniau, targedau ayyb
- Mae’r rhieni hefyd yn cael eu hannog i ymateb ar y ClassDojo. Er enghraifft i nodi pethau pwysig am eu plentyn e.e. nodi os nad yw’r plentyn wedi cysgu'r noson cynt, os yw’n sâl ac yn absennol ayyb.
Mae unrhyw wybodaeth yn bwysig ei rannu er sicrhau bod y plentyn yn cael sesiwn llwyddiannus bob dydd.
- Gofynnir i’r rhieni nodi os oes ganddynt rif ffôn newydd.
- Gofynnir i rieni adael i’r staff wybod os oes rhywun gwahanol i’r arfer yn nôl eu plentyn o’r dosbarth.
- Os yw’r plentyn yn absennol o’r dosbarth am unrhyw reswm, cyfrifoldeb y rhiant yw cysylltu hefo’r cwmni tacsi i ddweud nad oes angen tacsi'r diwrnod hwnnw. Mae hyn yn arbed amser a chost. Gofynnir i’r rhieni hefyd gysylltu yn fuan hefo’r dosbarth ABC
Oes gwisg ysgol gan y dosbarth ABC?
Nid oes rhaid cael gwisg ysgol ar gyfer y dosbarth ABC. Mae rhai rhieni yn dewis prynu gwisg eu hysgol lleol ac mae rhieni eraill yn gwisgo eu plant yn eu dillad eu hun. Dewis unigol ydy hyn.
Oes angen dod â rhywbeth i’r dosbarth ABC?
Gofynnir i rieni roi snac/byrbryd i’w plentyn ddod i’r dosbarth.
Gofynnir i’r rhieni roi dillad addas ar gyfer y tywydd e.e. cot yn y gaeaf.
Gofynnir bod gan y plentyn ddigon o glytiau/wipes a dillad sbâr yn eu bag bob dydd.
Gofynnir i’r rhieni roi enw eu plentyn ar ei eiddo e.e. bag, cot, botel ddiod ayyb.
Cludiant
Mae’r Awdurdod Addysg yn gallu trefnu tacsi ar gyfer plant sydd yn byw ymhellach na 2 filltir o’r dosbarth ABC (yn unol â Pholisi Cludiant yr Awdurdod Addysg). Mae’r tacsi yn cludo’r plant i’r dosbarth o’r cartref ac yna yn dod â hwy adref ddiwedd pob sesiwn.
Nid yw pob rhiant yn dymuno defnyddio tacsi. Gwell gan rhai dod â’u plentyn eu hunain.
Adnoddau
-
-
Enw: Canolbwyntio a gwrando - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Chwarae - Cymorth Gartref.pdf

Enw: Cyn geiriau - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Deall iaith - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Defnyddio geiriau a siarad - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Lleferydd anwastad - Cymorth Gartref.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Mae’r taflenni gwybodaeth ‘cymorth gartref’ hyn wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni sydd â phlant bach. Cynnwys cyngor ymarferol defnyddiol gyda gemau a gweithgareddau i helpu plant ddatblygu iaith a medrau. Adnodd Afasic Cymru.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Lluniau i Rieni.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Lluniau i help Rhieni i ddangos trefn beth sy'n digwydd 'rwan' a 'wedyn' yn y cartref.
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Meini Prawf BC Gorffennaf 2021.docx
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Meini Prawf - Mesurydd Mynediad i Gwasanaeth ABC
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Nodyn i Rieni A note for Parents.docx
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Nodiadau i gefnogi RhieniNotes to support Parents
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Tabl - Arweiniad ar ddefnyddio adnoddau gweledol.pdf
-
Iaith: Cymraeg
-
Disgrifiad: Arweiniad ar ddefnyddio strategaethau gweledol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
-
Fersiwn Saesneg:
Os oes angen fersiwn Saesneg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Pamffled Wybodaeth ABC Information Leaflet.pdf
-
Iaith: Dwyieithog / Bilingual
-
Disgrifiad: Gwybodaeth i Rieni am y Gwasanaeth Arsylwi ac Asesu yn y Blynyddoedd Cynnar (ABC) / Information Leaflet for Parents about the Observation and Assessment in the Early Years (ABC) Service
-
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Before words - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Bumpy speech - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Concentrating and listening - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Pictures for Parents.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: Pictures to help Parents explain what is happening Now and Then at home.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Play - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Understanding language - Help at home.pdf
-
Iaith: English
-
Disgrifiad: These ‘help at home’ fact sheets are aimed at parents with young children. They contain useful practical advice with games and activities to help children develop skills and language. Produced by Afasic Cymru.
-
Fersiwn Cymraeg:
Os oes angen fersiwn Cymraeg o'r ffeil yma, plis cysylltwch a ni.
-
Lawrlwytho
-
-
Enw: Using words and talking - Help at home.pdf