Dyddiad: 17/02/2023
Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr sydd eisiau gwybod mwy am y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yng Nghymru?
Mae SNAP Cymru yn cynnal fforymau di-dâl i rieni, gofalwyr a theuluoedd plant 0-25 oed ledled Cymru sydd ag ADY/Anableddau. Mae hyn yn cynnwys y Galeri yng Nghaernarfon ar 15 Mawrth 2023.
Cyfle i rieni a gofalwyr i:
- gael mwy o wybodaeth am weithredu'r system ADY yng Nghymru
- rannu eu barn a'u profiadau
- gael mynediad at gymorth a chyngor gan dîm SNAP Cymru
Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Am ragor o fanylion am y digwyddiad, ewch i wefan SNAP Cymru O AAA i ADY – Digwyddiadau drwy Gymru gyfan i rieni a gofalwyr plant 0-25 oed sydd ag Anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau - Snap Cymru
Gallwch hefyd anfon e-bost at SNAP Cymru gydag unrhyw gwestiynau am y digwyddiad: fromsentoaln@snapcymru.org
Yn ychwanegol i’r uchod, trwy gytundeb gydag awdurdodau addysg lleol Gwynedd ac Ynys Môn, mae SNAP Cymru yn darparu ein Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth ADY i deuluoedd Wynedd ac Ynys Môn