Pennaeth (Person Cyswllt ADYaCh ym mhob ysgol)
Mae’r Pennaeth yn gyfrifol am:
- Sicrhau ethos cynhwysol ar lefel ysgol gyfan.
- Sicrhau fod ethos dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu rheadru drwy’r ysgol gyfan ar gyfer personoli’r profiad addysgol.
- Sicrhau fod Proffil Un Tudalen yn cael ei greu ar gyfer pob disgybl sydd ar y Gofrestr ADY
- Sicrhau fod systemau’r ysgol yn cyd-fynd â’r gofynion statudol a bod y Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADY a Chynhwysiad yn gweithredu yn unol â’r gofynion yma.
- Sicrhau, ar y cyd efo’r Llywodraethwr Cyswllt ADY a Chynhwysiad a’r Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADYaCh, fod Polisi ADY a Chynhwysiad yr ysgol yn cael ei diweddaru yn flynyddol.
- Sicrhau perchnogaeth a dealltwriaeth o ADY a Chynhwysiad ar draws yr ysgol.
- Sicrhau fod cynnydd disgyblion gyda ADY a Chynhwysiad yn cael ei fonitro a’i fesur.
- Sicrhau fod defnydd o brofion safonedig, yn unol â’r meini prawf, i asesu cyrhaeddiad disgyblion yn rheolaidd. Arfer dda fyddai gwneud hyn ddwywaith y flwyddyn.
- Sicrhau fod yna brosesau sganio clir yn bodoli er mwyn adnabod disgyblion a all fod ag ADY a Chynhwysiad yn fuan, fel bod modd ymyrryd yn gynnar.
- Sicrhau defnydd effeithiol, effeithlon a phriodol o’r cyllid datganoledig ADY a Chynhwysiad er mwyn targedu’r plant sydd angen ymyrraeth.
- Sicrhau fod systemau yn eu lle i’r Athrawon Dosbarth rannu gwybodaeth gyda’r Cydlynydd Ysgol/Clwstwr ADY a Chynhwysiad.
- Sicrhau fod ansawdd y dysgu, y gwahaniaethu a’r asesu ar draws yr ysgol yn uchel.