Athrawon Dosbarth/Pwnc
Mae angen i bob athro/awes:
- Cymryd rhan allweddol yn nhrefniadau asesu, sgrinio a monitro cynnydd disgyblion gyda ADY a Chynhwysiad.
- Sicrhau fod yr awyrgylch ddysgu yn gynhwysol a chroesawgar.
- Cymryd y cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus gan fachu ar gyfleon i fynychu a defnyddio hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig o fewn y maes ADY a Chynhwysiad.
- Cwblhau ac addasu agweddau perthnasol o’r Proffil Un Tudalen o fewn Cynllun Datblygu Unigol y disgybl.
- Gwneud defnydd effeithiol o adnoddau parod ac adnoddau dynol sydd ar gael i gefnogi’r dysgu.
- Cymryd rôl allweddol yng nghynllunio targedau’r disgyblion o fewn y Cynllun Gweithredu (Cynllun Addysg Unigol).
- Dilyn arweiniad ac argymhellion sydd yn cael eu cynnig gan wasanaethau arbenigol yr A.Ll.