Cysylltiadau Defnyddiol
Cynnig Gofal Plant (20 awr) - Gall plant sy'n gymwys gael yr hawl i hyd at 20 awr o ofal plant sy'n cael ei gyllido gan y Llywodraeth yn ystod tymor yr ysgol, yn ychwanegol at y 10 awr o Addysg Feithrin sy'n cael ei ddarparu'n barod.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwynedd
Cyfeiriad Tŷ Cegin Rhodfa Penrhyn Maesgeirchen Bangor Gwynedd LL57 1LR
Ffôn 01248 352436 / 07976 623816
Ebost GGTGwyneddFIS@gwynedd.llyw.cymru
Gwefan www.ggd.cymru/fis/W06000002
Teulu Môn / Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Ynys Môn
Cyfeiriad Teulu Môn, Cyngor Sîr Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW
Ffôn 01248 725888
Ebost teulumon@ynysmon.gov.uk
Gwefan www.ggd.cymru/fis/W06000001
Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (Llywodraeth Cymru)
Adolygiadau sy’n canolbwyntio ar unigolion ar gyfer teuluoedd (Llywodraeth Cymru)
Cynulleidfa: Unrhyw riant neu aelod o deulu plentyn sy’n destun adolygiad sy’n canolbwyntio ar unigolion.
Trosolwg: Mae’r ddogfen hon yn rhoi templed i deulu ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer adolygiad sy’n canolbwyntio ar unigolion y mae ei blentyn yn destun iddo.
Adolygiadau sy’n canolbwyntio ar unigolion ar gyfer gweithwyr proffesiynol (Llywodraeth Cymru)
Cynulleidfa: Unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n cyfrannu at adolygiad sy’n canolbwyntio ar unigolion.
Trosolwg: Mae’r ddogfen hon yn rhoi templed i’w ddefnyddio i baratoi ar gyfer adolygiad sy’n canolbwyntio ar unigolion.
Adolygiadau sy’n canolbwyntio ar unigolion - Llyfryn i’ch helpu i feddwl am eich cyfarfod (Llywodraeth Cymru)
Cynulleidfa Unrhyw ddysgwr sy’n cymryd rhan mewn adolygiad sy’n canolbwyntio ar unigolion i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.
Trosolwg Mae’r ddogfen hon yn rhoi templed i ddysgwr ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer adolygiad sy’n canolbwyntio ar unigolion
Ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolion mewn addysg: canllaw ar gyfer blynyddoedd cynnar, ysgolion a cholegau yng Nghymru (Llywodraeth Cymru)
Cynulleidfa: Pob ysgol, coleg a lleoliad cyn ysgol.
Trosolwg: Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ac enghreifftiau ynghylch sut y gellir defnyddio ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolion mewn lleoliadau addysg i gefnogi dysgwyr 0–25 oed.
Pecyn cymorth adolygiadau sy’n canolbwyntio ar unigolion (Llywodraeth Cymru)
Cynulleidfa: Pob ysgol, coleg a lleoliad cyn ysgol.
Trosolwg: Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar sut i baratoi ar gyfer, trefnu a chynnal adolygiadau sy’n canolbwyntio ar unigolion.
BBC Tiny Happy People - Mae gan y BBC fenter blynyddoedd cynnar newydd ar gyfer y DU gyfan o’r enw Tiny Happy People. Mae gwefan a thudalen Instagram gydag ystod enfawr o weithgareddau hynod ddefnyddiol, fideos gwybodaeth, clipiau odl hwiangerddi, cyngor a phopeth y byddai ei angen ar riant fel cefnogaeth i ddatblygiad eu plentyn yn ystod yr amser anodd hwn! Mae yna gyngor hyd yn oed ar weithgareddau i'w gwneud yn ystod y broses gloi (i unrhyw un ohonoch gartref gyda phlant dan 5 oed). Rhennir y gweithgareddau yn ystod oedran ar y wefan ac mae'r clipiau fideo yn fyr ac yn hawdd iawn ac yn hygyrch.
Mae’r BBC yn frwdfrydig iawn ynghylch cau’r bwlch iaith ymhlith plant cyn-ysgol. Mae ymgyrch y sefydliad wedi’i hanelu at rieni ar draws y DU gyfan, gan ddwyn ynghyd nifer o randdeiliaid (trydydd sector / elusennau a masnachol) i weithredu menter sydd â neges syml, unedig ynghylch siarad â’ch babi ond sy’n hyperleol ac wedi’i theilwra i anghenion lleol. Caiff y fenter ei gweithredu mewn sawl ffordd - drwy ddarlledu (drwy deledu a radio’r BBC), yn ddigidol, drwy ddarpariaeth wyneb yn wyneb gan weithwyr proffesiynol rheng flaen, a thrwy hyrwyddwyr cymunedol a chymar i gymar.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos â’r BBC i dreialu rhai o adnoddau Tiny Happy People mewn 2 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae Tiny Happy People yn ategu ymgyrch Siarad gyda Fi Llywodraeth Cymru ac mae Llywodraeth Cymru’n hyrwyddo adnoddau’r BBC drwy ei sianelu cyfathrebu. Cafeat: Mae rhai o adnoddau Tiny Happy People ar gael yn Gymraeg. Fodd bynnag, nid yw’r wefan yn gwbl ddwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda’r BBC i gynhyrchu rhagor o adnoddau yn Gymraeg.
The Communication Trust