Gwerthusiad System ADY: Arolwg Rhieni a Gofalwyr

Dyddiad: 16/04/2025
cogs ADY_CY

Rydym am glywed barn a phrofiadau rhieni a gofalwyr plant am y system anghenion dysgu ychwanegol.

Mae cwmni ymchwil Arad yn cynnal gwerthusiad o’r system ADY ar ran Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r gwerthusiad, bydd yr arolwg hwn yn casglu barn rhieni a gofalwyr am y system ADY yng Nghymru. Bydd y gwaith ymchwil pwysig hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall sut y gall barhau i wella’r system ADY.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar aln-evaluation@arad.research.wales.

I gwblhau'r arolwg ewch i - https://www.smartsurvey.co.uk/s/aln-parents-carers/?lang=1014014