Ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn yn arwain y ffordd wrth gefnogi plant gydag anghenion cyfathrebu

Dyddiad: 23/02/2022
Mae ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn yn gwneud y mwyaf o ffordd arloesol o weithio sydd wedi helpu sgiliau cyfathrebu eu disgyblion.

Ysgol Pendalar ac Ysgol Hafod Lon yng Ngwynedd, a Canolfan Addysg y Bont yn Ynys Môn oedd yr ysgolion arbennig cyntaf yng Nghymru i sicrhau’r statws ‘Lleoliad Cyfathrebu Gyfeillgar Elklan’.

Roedd hyn yn dilyn dwy flynedd o waith caled gan yr ysgolion sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

Mae’r rhaglen yn cael ei defnyddio’n eang yn ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn ac yn cael ei hyrwyddo gan wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd y Bwrdd Iechyd lleol i gefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.

Sefydlwyd Elklan ym 1999 gan ddau therapydd lleferydd ac iaith, Liz Elks a Henrietta McLachlan, i hyfforddi staff addysg i ddod yn fwy effeithiol wrth gefnogi plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Dywedodd Liz Elks, Cyfarwyddwr Elklan Training:

“Mae gan bob ysgol athrawon arbenigol a elwir yn Ymarferwyr Cyfathrebu Arweiniol sy’n adnodd parhaus i hyfforddi staff newydd a pharhau i feithrin gallu pob ysgol i gefnogi cyfathrebu.

“Mae gan Lowri Roberts, a fu’n diwtor ar y rhaglen, ganmoliaeth uchel i bawb a gymerodd ran ac rwy’n arbennig o falch gan mai dyma’r ysgolion cyntaf i ennill statws Ysgol Arbennig Cyfeillgar i Gyfathrebu Elklan yng Nghymru.”

Elklan_Hafod Lon(1)

Datganiad Cyngor Gwynedd:
https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Newyddion/Datganiadau-ir-wasg/Chwefror-2022/Ysgolion-Gwynedd-yn-arwain-y-ffordd-wrth-gefnogi-plant-gydag-anghenion-cyfathreb.aspx

Datganiad Cyngor Sir Ynys Môn:
https://www.ynysmon.gov.uk/cy/newyddion/newyddion/gwobr-fawreddog-i-ganolfan-addysg-y-bont