Gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer symud o'r system AAA i'r system ADY

Dyddiad: 14/01/2022

Fel y gwyddoch mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi deddf newydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) – Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Mae canllaw i rieni ar gael sy'n rhoi gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer symud o’r system AAA i’r system ADY.

Mae’r canllaw yn:

  1. esbonio'r system ADY
  2. nodi'r flwyddyn ysgol y bydd y blynyddoedd gorfodol yn symud o'r system AAA i'r system ADY
  3. nodi'r broses gyffredinol ar gyfer symud o'r system AAA i'r system ADY
  4. esbonio hawl y plentyn neu'r rhiant i ofyn am gael symud i'r system ADY

Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael ei rhoi ar waith yn raddol rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2024.

Mae'r canllaw hwn yn egluro sut y bydd rhai plant yn symud i'r system ADY rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2022. Noder, bydd canllaw ar wahân sy'n egluro sut y bydd plant a phobl ifanc eraill yn symud i'r system ADY.

Canllaw i Rieni (2021-2022)