Dyddiad: 14/10/2022
Mae 14eg Hydref 2022 yn Ddiwrnod Anhwylder Iaith Datblygiadol, neu Ddiwrnod DLD.
Thema Diwrnod Anhwylder Iaith Datblygiadol ar gyfer 2022 yw ‘Tyfu gydag Anhwylder Iaith Datblygiadol’.
I ddargafod mwy am Anhwylder Iaith Datblygiadol neu DLD, adnoddau neu sut i godi ymwybyddiaeth, gallwch ymweld â gwefan RADLD - Raising Awareness of Development Language Disorder: https://radld.org/
Mae gwasanaeth arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio Gwynedd ac Ynys Môn yn cefnogi plant a phobl ifanc gydag anhwylderau iaith, lleferydd a chyfathrebu.