Dyddiad: 01/11/2022
Mae’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) yn cael ei disodli gan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hyn yn digwydd dros 3 blynedd ysgol – rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2024.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut a phryd y bydd plant yn symud o’r system AAA i’r system ADY.
Cyhoeddwyd y canllawiau hwn Medi 2022.
Canllaw i Rieni a theuluoedd
Gweithredu’r system anghenion dysgu ychwanegol rhwng Medi 2021 ac Awst 2024: Canllaw i rieni a theuluoedd
Mae’r canllaw hwn i rieni a theuluoedd yn egluro sut a phryd y bydd plant yn symud o’r system AAA i’r system ADY.
Gwybodaeth i Blant
Gwybodaeth i blant am symud o'r system anghenion addysgol arbennig i'r system anghenion dysgu ychwanegol.
Canllaw Hawdd ei ddarllen
Rhoi system newydd anghenion dysgu ychwanegol yn ei le rhwng Medi 2021 ac Awst 2024 - Canllaw hawdd ei ddarllen i blant, rhieni a theuluoedd.