Un dydd ar y tro: Cyfres fideo i gynnal llesiant ac iechyd meddwl plant

Dyddiad: 21/12/2020

Mae’r athrawes ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar Leisa Mererid, wedi creu cyfres o fideos dyddiol i blant cynradd a fydd yn eu cynorthwyo i gynnal llesiant ac iechyd meddwl.

Mi fydd patrwm penodol i’r rhaglen sy’n dilyn trefn dyddiau’r wythnos:

  • Dydd Llun Llesol,
  • Dydd Mawrth Mynegi,
  • Dydd Mercher Meddylgarwch,
  • Dydd Iau Ioga,
  • Dydd Gwener Gorffwys.

 Pob bore ar sianel AM Cymru rhwng 4 Ionawr 2021 a 26 Chwefror 2021. Ymunwch â’r sianel yma: https://www.amam.cymru/undyddarytro 

Mae gwerslyfr wedi ei baratoi gan Leisa i gyd-fynd â'r fideos fydd yn cefnogi athrawon a chymorthyddion dysgu i arwain eu dosbarthiadau drwy’r ymarferion; fe’i cynhyrchwyd gyda nawdd y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) yw’r trefnydd. Cysylltwch â Hunaniaith ar Hunaniaith@gwynedd.llyw.cymru gael copi o’r gwerslyfr neu am fwy o wybodaeth.

Un Dydd ar y Tro 2021_Cymraeg