Addysg Plant Sâl
Meini Prawf cyfeirio i’r gwasanaeth, a sut i gyfeirio?
Mae angen i’r ysgol wneud cyfeiriad i’r Fforwm Plant Sâl os ydy disgybl am dderbyn mewnbwn gan y Gwasanaeth (Uwchradd a Cynradd)
Meini Prawf
Darperir addysg plant sâl ar gyfer disgyblion o oedran ysgol orfodol nad ydynt am sawl rheswm, yn gallu mynychu ysgol briodol. Mewn achosion unigol, mae’r ffactorau penodol yn aml yn gymhleth.
Ystyrir addysg plant sâl dros dro / cyfnod penodol yn yr amgylchiadau canlynol;
- Disgyblion â chyflyrau meddygol sydd yn eu hatal rhag mynychu ysgol. (Achosion meddygol; yn cynnwys disgyblion gyda chyflyrau seicolegol neu seiciatrig ac sydd yn agored i wasanaeth CAMHS)
- Meddygol corfforol - Plant sy’n derbyn adroddiad meddygol gan arbenigwyr neu bediatrydd sy’n datgan ei fod yn beryg iddynt fynychu’r ysgol.
- Meddygol emosiynol - (ffobia ac sydd yn agored i wasanaeth CAMHS).
Gyda phob un o’r cyflyrau uchod disgwylir llythyr gan Bediatrydd neu Arbenigwyr Meddygol yn nodi’n glir y dylai’r disgybl dderbyn addysg plant sâl. Bydd unrhyw gais sydd yn cael ei gyflwyno heb lythyr yn cael ei wrthod.
Beth yw nôd y Gwasanaeth?
Mae’r Gwasanaeth Addysg Gartref i Blant Sâl yn gweithio â theuluoedd ac ysgolion prif lif i gefnogi pobl ifanc sydd â chyflyrau meddygol cymhleth i gyrraedd eu llawn botensial. Y nod yw cynnig cefnogaeth brydlon ac effeithiol i er mwyn goresgyn unrhyw broblem all godi oherwydd salwch hir dymor.
Pa Hyfforddiant sydd ar gael?
NNSP yn yr Uwchradd
Pwy ydi’r tîm?
Swyddogion Pecyn 25 yn bennaf ond gwneir defnydd o TUTE mewn rhai achosion
Beth yw Rôl yr athro/awes arbenigol / Uwch Gym / Cymhorthydd / Swyddog Lles / Seic Addysgol?
Cefnogaeth Tîm Seicolegydd Addysg Ysgol ar gynllun integreiddio a chefnogi’r dysgwyr
Ysgol i arwain ar achosion o ran gwaith ac adolygu