Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar

Pwy yw Blynyddoedd Cynnar?

Plant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

 

Pwy sydd yn derbyn y gwasanaeth yma?

Pan gaiff ei ddwyn i sylw’r Awdurdod Lleol y posibilrwydd fod gan blentyn yn y Blynyddoedd Cynnar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), rhaid i’r Awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn ADY ai pheidio. Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar sydd yn cydlynu’r trefniadau er mwyn caniatáu Awdurdod Lleol wneud y penderfyniad.

 

Sut mae cyfeirio plentyn yn y Blynyddoedd Cynnar i’r Awdurdod Lleol?

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

  • Cefnogi lleoliadau Blynyddoedd Cynnar i ddarparu darpariaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
  • Darparu arweiniad a hyfforddiant penodol i leoliadau Blynyddoedd Cynnar ac hynny yn eu caniatáu i gynllunio’n effeithiol ar gyfer ymateb i anghenion plant
  • Cyflwyno ymyraethau ag adnoddau sydd wedi’u teilwra ar gyfer beth mae plentyn ei angen.

Mae’r gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn gweithio efo rhieni, lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill i wneud yn siŵr bod pob plentyn ag ADY yn:

  • Derbyn yr un cyfleoedd yn union â’u ffrindiau.
  • Datblygu sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnyn nhw.
  • Cyflawni eu potensial a datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol.
  • Elwa o wasanaeth arbenigol sy’n ymateb i anghenion addysgol y plentyn.
  • Yn cael ei addysgu mewn awyrgylch sy’n hybu cynhwysiad addysgol.
  • Derbyn cefnogaeth addas ac amserol.

 

Pwy ydi’r tîm?
Swyddog Arweiniol  ADY y Blynyddoedd Cynnar

Ellen Jones

Athrawon Arbenigol

Catrin Williams

Bethan Dixon

Ffion Lovgreen

Uwch Gymorthyddion Arbenigol

Sarah Elliott

Cymorthyddion Arbenigol

Dawn Parry

Karen DeWaart

Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn gweithio’n agos gyda:

-          Gwasanaeth Nam Synhwyraidd

-          Gwasanaeth Corfforol a/neu Meddygol

-          Gwasanaeth ABC

-          Athrawon ymgysylltiol Cyfnod Sylfaen a Dechrau’n Deg

-          Gwasanaethau Arbenigol Plant (Derwen a GAP)

 

Beth yw rôl y Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar?

  • Cynnig canllawiau, cyngor a chymorth i sector y blynyddoedd cynnar i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel
  • Darparu hyfforddiant i leoliadau blynyddoedd cynnar ar faterion sy'n ymwneud ag ADY, gan ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill lle y bo'n briodol a chynnig mewnbwn arbenigol
  • Hyrwyddo cydweithio effeithiol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, addysg, y trydydd sector a gofal cymdeithasol ynghylch darpariaeth ADY.
  • Bod â throsolwg o'r gwaith o gynllunio a dyrannu cyllidebau ar gyfer ADY.
  • Darparu cymorth i sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Unigol y Blynyddoedd Cynnar yn cael eu paratoi, eu cynnal a'u hadolygu.
  • Sicrhau, lle bo Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn cael ei dyrannu a'i phennu yn y Cynllun Datblygu Unigol, ei bod yn cael ei hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr adnodd yn effeithiol ac yn dystiolaeth o effaith.
  • Datblygu systemau i nodi ADY posibl yn gynnar, a rhoi ymyrraeth gynnar a phriodol ar waith er mwyn atal ADY rhag datblygu neu ddwysáu.
  • Gweithio gyda thimau ehangach o weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn y blynyddoedd cynnar i ddatblygu gwaith cydweithredol ledled addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.

 

Beth yw rôl y Seicolegydd Addysgol?

 

Beth yw rôl y lleoliad blynyddoedd cynnar?

  • Datblygu awyrgylch dysgu sy’n gyfeillgar a chynhwysol i unigolion ag ADY
  • Arsylwi ac asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu’n briodol er mwyn edrych ar anghenion y plant a dewis strategaethau a/ neu ymyraethau sydd eu hangen er mwyn darparu a chefnogi anghenion y plentyn neu blant.
  • Defnyddio dogfen tracio ag olrhain cynnydd Blynyddoedd Cynnar os ydy dulliau asesu arferol wedi amlygu angen mewn maes penodol
  • Llunio Proffiliau Un Dudalen ar gyfer plant ar yr haen Darpariaeth Gyffredinol wedi’i thargedu
  • Darparu ymyraethau a strategaethau ar yr haen Darpariaeth Gyffredinol o ansawdd i bawb o fewn y lleoliad
  • Darparu ymyraethau a strategaethau ar yr haen Darpariaeth Gyffredinol wedi’i thargedu ar gyfer plant sydd wedi amlygu angen mewn maes penodol
  • Defnyddio dull ymateb graddoledig a choladu tystiolaeth yn unol â gofynion y ddogfen Map Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar
  • Cyfeirio plentyn i sylw’r Awdurdod Lleol os ydych chi'n amau fod gan y plentyn ADY
  • Mae disgwyl i leoliadau addysg Feithrin helpu’r Awdurdod gyda swyddogaethau ADY mewn perthynas â phlentyn sy’n mynychu’r lleoliad os yw’n cael cais i wneud hynny.

 

Pwy arall sy’n gallu helpu?